Mae AaGIC wedi bod yn cefnogi Rhaglen Gydweithredol Iechyd GIG Cymru yn y gwaith ar yr ymgynghoriad DNA CPR (Adran 5).
Cafodd Polisi Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (DNACPR) Cymru Gyfan ar gyfer Oedolion ei adolygu a'i ddiweddaru yn 2020. Pwrpas hyn oedd galluogi ystod ehangach o Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (HCPR) i arwain a hwyluso sgyrsiau a phenderfyniadau CPR/DNACPR.
Mae trafodaethau DNACPR yn rhan bwysig o gynllunio gofal ymlaen llaw ac at y dyfodol. Maent yn cynorthwyo cleifion i ystyried eu daliadau, eu dymuniadau a'u dewisiadau o ran gofal i’r dyfodol, unwaith y bônt yn fwy gwybodus am CPR yn ei hanfod a pha mor llwyddiannus neu aflwyddiannus y gall fod mewn sefyllfaoedd amrywiol.
Mae HCP ledled Cymru wedi nodi’r angen am fwy o eglurder ac arweiniad ynghylch paratoi a hyfforddi. Heb ragor o eglurder a chanllawiau mae risg y gallai rhai HCP fod yn amharod i hwyluso sgyrsiau a phenderfyniadau ynghylch CPR/DNACPR. Gallai hyn effeithio ar ofal ymlaen llaw ac at y dyfodol, yn ogystal a dewis cleifion. Mae AaGIC wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r GIG a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru i ddatblygu Fframwaith Cymhwysedd Cymru Gyfan er budd Llenwi'r Ffurflen DNACPR Cymru Gyfan (Adran 5) gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Cofrestredig. Lluniwyd y fframwaith cymhwysedd hwn ar gyfer Byrddau Iechyd a sefydliadau gofal iechyd partner eraill gyda'r nod o gynorthwyo HCP cofrestredig, dynodedig i ymgymryd â hyfforddiant priodol.
Mae'n bwysig ceisio barn ac adborth o safbwynt y grwpiau HCP perthnasol i lunio a llywio'r fframwaith cymhwysedd. Felly, hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 16 Ionawr 2023 a 13 Chwefror 2023.
Gallwch weld y ddogfen ddrafft yma.
Gallwch ymateb i'r Ymgynghoriad gan ddefnyddio Microsoft Forms, yma.
Gallwch hefyd gymryd rhan mewn gweithdy un awr rhithwir trwy Microsoft Teams. Cynhelir y gweithdai:
I gofrestru ar gyfer y gweithdai, ewch i: https://www.eventbrite.com/e/dna-cpr-section-5-consultation-events-tickets-516450446187.