Mae gan Bractisau Deintyddol Ymarfer Cyffredinol gyda chontract GIG nawr yr hawl am hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol ac argyfwng meddygol sydd wedi ei drefnu gan AaGIC.
Mae'r Adran Ddeintyddol wedi cyflwyno dull cymysg ar gyfer hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol ac argyfwng meddygol deintyddol. Ar â´l cwblhau modiwl dysgu ar-lein (DPP 1 awr), gall Timau Deintyddol o fewn Practisau Deintyddol Cyffredinol ategu'r hyfforddiant hwn â sesiwn ymarferol yn eu practis (DPP 1 awr), a gynhelir gan ein Darparwyr Hyfforddiant a gomisiynwyd gennym.
Mae cwblhau'r ddau gwrs yn bodloni meini prawf DPP uwch y GDC ac yn cynrychioli 2 awr o DPP gwiriadwy.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar sut i archebu'r hyfforddiant hwn, lawrlwythwch a darllenwch y Cwestiynau Cyffredin a'r Siart Llif.
Modiwl Dysgu Ar-lein - Gall Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol gwblhau'r modiwl dysgu ar-lein trwy ein System Rheoli Dysgu newydd, Y Ty Dysgu. Cofrestrwch yma os nad ydych wedi cofrestru am gyfrif eto - Sign up - Ytydysgu Heiw (DS - dim ond un cyfrif sydd ei angen arnoch. PEIDIWCH â chreu cyfrif arall os ydych wedi cofrestru o'r blaen ar y system hon). Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin i gael gwybodaeth fanwl am sut i gael mynediad at y modiwl. Mae cwblhau'r modiwl hwn yn cyfateb i 1 awr o DPP gwiriadwy.
Mae Darparwyr Hyfforddiant yn cael eu pennu gan Fyrddau Iechyd |
|
---|---|
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Lubas Medical Limited |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Adran Ddadebru, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Training for Life Limited |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Adran Ddadebru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Cyswllt yn y Gogledd Ddwyrain: Clair Partington, Cyswllt Canol Gogledd Cymru: Hannah Taylor & Leeanne Oliver Cyswllt y Gogledd Orllewin: Angela Davies |
Mae gwybodaeth ategol a'r' siartiau llif argyfwng meddygol, y gallwch eu llwytho i lawr ar gyfer eich sesiwn ymarfer, ar gael isod hefyd.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Jan Prosser-Davies.