Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr yn cwblhau interniaeth haf gyntaf erioed yn AaGIC

Ymunodd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ag AaGIC am bythefnos yn ystod y Pasg 2021 i helpu i gynllunio a dylunio'r Interniaeth AaGIC gyntaf erioed. Dychwelon nhw yn Haf 2021 i gwblhau'r interniaeth. 

Yn ystod y rhaglen chwe wythnos, bu'r myfyrwyr yn gweithio ar sawl prosiect ar draws y sefydliad yn yr Uned Cymorth Ailddilysu, Cynllunio, Perfformiad a Gwasanaethau Corfforaethol, Nyrsio a Thrawsnewid Bydwreigiaeth, Gofal Eilaidd, Iechyd Meddwl a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Cefnogwyd yr Interniaid gan reolwyr a mentoriaid yn y sefydliad, a gwnaethant wella eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn Setiau Dysgu Gweithredu a dosbarthiadau meistr gan weithwyr AaGIC gan gynnwys, Rheoli Prosiect a ddarperir gan Christian Favager. Hefyd cefnogodd y Tîm Hyfforddi Sgiliau Gwella Ansawdd (QIST) ein interniaid trwy gynnig sesiwn fentora prosiect ar sut i sicrhau bod eu prosiect yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus gan ddefnyddio methodolegau gwella a dadansoddeg data.

Ar eu diwrnod olaf yn AaGIC, cyflwynodd yr interniaid ganfyddiadau ac argymhellion eu prosiect i'r Prif Weithredwr, Alex Howells ac aelodau eraill o AaGIC, a gwnaeth ansawdd y prosiectau a thwf yr interniaid dros y lleoliad gwaith dwys 6 wythnos hwn argraff fawr arnynt.

“Mae'r 6 wythnos ddiwethaf wedi bod yn hollol anhygoel. Rwy’n falch iawn fy mod bellach yn gallu dweud fy mod yn gyfrifol am elfennau allweddol mewn rhaglen a ddyfeisiwyd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau. Rwyf wedi dysgu sut i gydweithredu'n dda ag eraill yn enwedig wrth ddibynnu ar ffynonellau allanol i ddarparu data,” meddai un myfyriwr.

Dywedodd y Prif Weithredwr Alex Howells “Roedd y cyflwyniadau o ansawdd mor wych. Rwy'n credu bod buddion y sefydliad ehangach yn cymryd rhan mewn mentora a hyfforddi yn enfawr - mae'n amlwg yn cyfoethogi swyddi ond hefyd yn rhoi cyfle i'n staff ein hunain fyfyrio, dysgu a herio eu hunain.”

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o interniaid y flwyddyn nesaf. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Claire Monks, heiw.internshipprogramme@wales.nhs.uk