Neidio i'r prif gynnwy

Hyrwyddo Gyrfaoedd GIG Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024

Cyhoeddwyd Dydd Iau 1 Awst 2024

O'r 5ed i’r 9fed o Awst, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024 ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Bydd AaGIC wedi eu lleoli yng nghwt pren C39 gyferbyn i Lido Pontypridd gan godi ymwybyddiaeth o’r 350+ o rolau gyrfaoedd a swyddi o fewn GIG Cymru, a chyfraniad hanfodol y Gymraeg wrth ofalu am gleifion.

P’un a ydych yn chwilio am eich swydd gyntaf, newid gyrfa, cyfle am swydd newydd i ddefnyddio’ch sgiliau trosglwyddadwy neu ddychwelyd i weithlu GIG Cymru, mae llawer o rolau a meysydd gwaith i ddewis ohonynt.

Bydd AaGIC hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith o fewn GIG Cymru a’r gwahaniaeth enfawr y gall ei wneud i ofal cleifion.

Fel y dywedodd Rheolwr Iaith Gymraeg AaGIC, Huw Owen, “Mae tystiolaeth yn dangos os mai’r Gymraeg yw iaith gyntaf claf, maen nhw’n fwy tebygol o wella yn gynt os ydych chi’n siarad gyda nhw yn Gymraeg. Hyd yn oed os mai dim ond ychydig o eiriau sydd gennych neu os ydych yn ddechreuwr mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at siarad â phobl yn yr Eisteddfod am sut y gallant wneud gwahaniaeth gan ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn gyrfa gofal iechyd gwerth chweil.”

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ymuno ag AaGIC yn ystod yr wythnos i gynrychioli GIG Cymru ac ar Dydd Mercher 7fed Awst bydd Cyfarwyddwr Gweithredol Digidol, Data ac Ymgysylltu AaGIC, Sian Richards, yn eistedd ar panel i drafod dyfodol gofal iechyd digidol yng Nghymru yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dywedodd Chris Jones, Cadeirydd a Hyrwyddwr y Gymraeg AaGIC:

“Rydym yn angerddol dros gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws iechyd a gofal, ac mae llawer o gyfleoedd i ddysgu a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg a chael cefnogaeth i ddefnyddio’r iaith yng ngyrfaoedd GIG Cymru.

“Fe fyddwn ni ar y maes felly dewch draw i ddweud shwmae.”

Os nad ydych yn mynychu’r Eisteddfod ond yn dymuno cael gwybod mwy am yr amrywiaeth o swyddi yn GIG Cymru, ewch i: https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/ymgyrchoedd-ymwybyddiaeth/gig75/.