Fel Partner Datblygu Llywodraeth Cymru ar gyfer Fframweithiau Prentisiaeth Iechyd, mae SAUl yn cynnal adolygiad o'r Fframwaith Prentisiaeth Cymorth Perioperative. Mae Grŵp Llywio wedi'i sefydlu i symud y gwaith hwn yn ei flaen gyda chynrychiolaeth cyflogwyr o bob rhan o GIG Cymru. Mae'r Fframwaith a adolygwyd bellach yn barod am gyfnod ymgynghori o 4 wythnos cyn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Byddem yn falch iawn pe gallech gymryd ychydig funudau o'ch amser ac ateb rhai cwestiynauam gynnwys y fframwaith i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion gwasanaethau cymorth gofal iechyd. Yn ogystal â'r fframwaith drafft ar gyfer adolygu bydd dogfen gymhariaeth EDLS yn darparu gwybodaeth am wahanol ofynion lefel y Sgil Hanfodol Llythrennedd Digidol.