Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn ennill gwobr genedlaethol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi ennill gwobr 'Gwella Ymgysylltiad a Phrofiad Cydweithwyr' yng Ngwobrau Rhagoriaeth HPMA Cymru eleni.

Mae'r gwobrau, a gynhelir gan y Gymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd (HPMA), yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwaith eithriadol adrannau adnoddau dynol ym maes gofal iechyd ledled Cymru.

Er mai dim ond ychydig dros ddeuddeg mis yn ôl cafodd ei sefydlu, roedd y wobr yn canmol AaGIC am ei ddull o helpu gweithwyr o Ddeoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru (WEDS); a Canolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE) i bontio o fod yn dri corff gwahanol i ymsefydlu fel un sefydliad.

Yn arwain at, ac yn dilyn sefydlu AaGIC, anogwyd gweithwyr i gymryd rhan yn y gwaith o siapio'r sefydliad drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu staff/rhanddeiliaid, grwpiau ffocws i ganfod diwylliant y sefydliad wrth symud ymlaen, boreau coffi a chyfarfod a cyfarch gyda'r tîm gweithredol newydd.

Wrth ddathlu'r fuddugoliaeth, dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr AaGIC, "Rwyf wrth fy modd bod AaGIC wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gyfraniad at ymgysylltu â chyflogeion.

“Mae'r wobr hon yn cydnabod angerdd ac ymrwymiad ein staff cyn ac ers i ni lansio ar 1 Hydref 2019, i ddatblygu a phlannu gwerthoedd craidd AaGIC a fydd yn ein helpu i weithio tuag at ddiwylliant a ysgogir gan rymuso ac arloesi, a chefnogi ein gweledigaeth o 'Gweddnewid y gweithlu ar gyfer Cymru iachach'.

"Hoffwn longyfarch a diolch i bawb am barhau i ymgysylltu a chefnogi.”

Cafodd y sefydliad ganmoliaeth uchel hefyd yn y gwobrau yn y categori 'Gweithio'n Ddi-dor mewn Partneriaeth' ar gyfer ei ddull newydd o 'Reoli Presenoldeb yn y Gwaith ' (MAAW), ynghyd â chydweithwyr yn y gweithlu a datblygu sefydliadol, ac undebau llafur cynrychiolwyr o bob un o'r saith Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth yn GIG Cymru.

Mae dull newydd MAAW yn canolbwyntio ar gefnogi cydweithwyr yn gyfannol er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles, neu ddychwelyd i'r gwaith yn llwyddiannus ar ôl unrhyw gyfnod o absenoldeb.

Wedi'i lansio ym mis Hydref 2018, AaGIC yw'r unig awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru, gan chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.