Neidio i'r prif gynnwy

Porthor

Beth yw Porthor?

Mae porthorion yn gwneud cyfraniad pwysig at y gwaith o redeg y GIG o ddydd i ddydd. Mae disgwyl i borthor gyflawni ystod eang o ddyletswyddau yn ystod ei sifft.

Mae porthor yn cerdded yn bell iawn yn aml pan fydd wrth ei waith, wrth gludo cleifion neu eitemau o un lle i’r llall er enghraifft. Bydd hefyd yn gweithio gyda staff clinigol ac anghlinigol.

Ai porthor yw’r yrfa iawn imi?

Mae’n rhaid i borthor:

  • gymryd cyfrifoldeb dros ei waith ei hun
  • sicrhau ei fod yn lân ac yn daclus
  • bod yn iach yn gorfforol
  • dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • bod yn dosturiol, cydymdeimladol ac empathig
  • talu sylw i fanylion
  • gweithio’n rhan o dîm
  • gallu gweithio heb oruchwyliaeth
  • rheoli amser yn effeithiol
  • cadw cyfrinachedd cleifion

Beth mae porthorion yn ei wneud?

Mae’r porthor yn aelod pwysig o’r tîm sy’n darparu gwasanaeth hynod o broffesiynol ac hanfodol wrth gefnogi staff clinigol. Mae’n gwneud hyn trwy gludo cleifion (a’u heiddo personol a’u ffeiliau clinigol) gan ddefnyddio cadeiriau olwyn, gwelyau, stretsieri a chynorthwywyr cerdded. Mae hefyd yn defnyddio’i fenter a’i broffesiynoldeb ei hun gan gludo cleifion heb oruchwyliaeth glinigol, ac wrth gofio bod angen parchu cyfrinachedd cleifion bob amser.

Mae porthorion yn cydweithio’n agos ag adrannau eraill, ac yn helpu staff i symud o wardiau a swyddfeydd ac i symud a storio dodrefn. Mae porthorion yn defnyddio system radio ddwy ffordd, bipwyr a pheiriannau galw, ar y cyd â chyfarpar diogelu personol. Maen nhw’n gwisgo ffurfwisg sy’n drwsiadus ond sydd hefyd yn gyffyrddus.

Mae porthorion yn cludo:

  • cleifion ar drolïau neu mewn cadeiriau olwyn
  • cyfarpar
  • samplau o waed cleifion
  • llieiniau
  • post a pharseli
  • gwastraff
  • batris
  • silindrau nwy
  • trolïau bwyd a diod
  • cleifion sydd wedi marw i’r corffdy

Gan ddibynnu ar ble mae’r porthor yn gweithio, gall dyletswyddau eraill gynnwys:

  • glanhau a thacluso’r ardaloedd tu allan a graeanu mewn tywydd oer
  • glanhau’r adeilad
  • gosod llenni newydd o gwmpas gwelyau ar y ward

Dyma deitlau swydd porthorion a’r meysydd maen nhw’n gweithio ynddynt:

  • porthor gwasanaethau arlwyo
  • porthor diogelwch
  • porthor llieiniau brwnt a gwastraff
  • porthor theatr llawdriniaethau
  • porthor cegin

Ble mae porthorion yn gweithio a chyda phwy maen nhw’n gweithio?

Mae porthorion yn gweithio mewn lleoliadau clinigol ac anghlinigol. Maen nhw’n gweithio’n rhan o dîm gwasanaethau porthora mawr yn yr adran gyfleusterau ac mewn lleoliadau clinigol.

Gan ddibynnu ar ble mae’r porthor yn gweithio ac ar union natur y rôl, mae’n bosibl y bydd yn gweithio gyda nyrsys, ymarferwyr yr adran lawdriniaethau, staff gwyddor gofal Iechyd sy’n gweithio ym maes gwyddorau bywyd, cynorthwywyr gofal iechyd, swyddogion cynnal a chadw, staff diogelwch neu staff arlwyo.

Faint mae porthorion yn ei ennill?

Mae porthorion yn dechrau ar Fand 2; ewch i’n tudalen am Dâl a Buddion am ragor o wybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i borthorion gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae cyfleoedd i borthorion gwblhau hyfforddiant yn y swydd os oes angen. Mae nifer o gyfleoedd yn yr Adran Gyfleusterau. Mae’r rhain yn cynnwys y cyfle i gysgodi sifftiau a secondiadau i rolau Goruchwyliwr, Rheolwr ac Uwch Reolwr. Gall porthorion ymgeisio am rolau mewn adrannau eraill yn yr ysbyty hefyd, fel Radioleg, Ffisiotherapi a theatrau llawdriniaethau.

Sut alla i ddod yn borthor?

Does dim gofynion penodol. Mae cyflogwyr yn disgwyl sgiliau rhifedd a llythrennedd da. Mae’n bosibl y byddant yn gofyn am TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

Mae cyflogwyr yn disgwyl i borthorion fod â rhywfaint o brofiad ym maes gofal iechyd. Gall hyn fod yn waith cyflogedig neu wirfoddol, fel gwaith gofalu er enghraifft. Bydd sgiliau gwasanaeth cwsmer yn ddefnyddiol hefyd.

Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am drwydded yrru.

Sut mae ennill profiad?

Profiad gwaith, lleoliadau gwaith, gwirfoddoli Gwaith banc, swydd barhaol

Sut alla i ymgeisio am swydd?

Mae holl swyddi gwag GIG Cymru wedi’u hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.