Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio'ch gweithlu

Words representing the shape of Wales

Cynllunio Gweithlu Integredig (ar Sail Iechyd y Boblogaeth)

Mae gweithlu'r GIG yn sbardun hollbwysig ac yn alluogwr allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae Cynllunio Gweithlu Integredig (Seiliedig ar Iechyd y Boblogaeth) yn ystyried y system gofal iechyd gyfan.

Mae hyn yn rhychwantu ystod gynhwysfawr o wasanaethau o fewn amgylcheddau ysbytai i ystod gynhwysfawr o wasanaethau yn yr economi iechyd lleol. Mae hefyd yn ystyried y rôl y mae cleifion/gofalwyr yn ei chwarae yn y llwybr gofal.

Mae llawer o bethau'n effeithio ar gynllunio'r gweithlu, er enghraifft, newidiadau mewn technoleg, tueddiadau o ran y boblogaeth, amddifadedd a chyflyrau cronig, disgwyliadau o wahanol genedlaethau, newidiadau mewn polisi a data tueddiadau cyflogaeth lleol. Mae ymgysylltu â'r gweithlu a iechyd a lles y gweithlu hefyd yn ffactorau pwysig wrth gadw staff.

Y rhan fwyaf o'r staff sy'n cael eu cyflogi yn GIG Cymru ar hyn o bryd fydd ein gweithlu yn y dyfodol felly mae'n bwysig deall pa sgiliau a chymwyseddau y bydd eu hangen arnynt i ddarparu gwasanaethau a gynllunnir ar gyfer y dyfodol, i ddeall o ble y daw'r sgiliau a'r cymwyseddau hyn ac os nad ydynt ar gael yn rhwydd, gwneud darpariaeth i ddatblygu'r rhain.

Mae cynllunio'r gweithlu yn GIG Cymru yn seiliedig ar y Fethodoleg Chwe Cham Sgiliau Iechyd ac, ym maes gofal eilaidd, mae'n gysylltiedig â gofynion y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig. Ym maes gofal sylfaenol, mae'r dull hwn wedi cael ei addasu i'w ddefnyddio mewn clystyrau ac i gefnogi gofynion Cynlluniau Tymor Canolig Integredig Clwstwr.

Mae cynllunio gweithlu effeithiol yn sicrhau bod gennym weithlu o:

Puzzle showing the workforce