Isod ceir ein cyfres o weminarau cyffredinol ar-lein ar gyfer meddygon a deintyddion SAS yng Nghymru. Cynhelir y cyrsiau hyfforddi rhyngweithiol hyn ar-lein, gan ddefnyddio Zoom, ac maent yn rhad ac am ddim i gofrestru. Mae'r teitlau a'r dyddiadau wedi'u rhestru isod, ac mae'r posteri gwybodaeth wedi'u hatodi. Mae rhai cyrsiau, ond gyda dyddiadau gwahanol, eisoes wedi'u hysbysebu eleni, felly peidiwch â bwcio ar yr un teitl cwrs gan fod cynnwys y cwrs yr un peth.
Mae angen gwneud yr archeb ar-lein gan ddefnyddio Eventbrite. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, ac mae'r cyrsiau'n llenwi’n gyflym. Os ydych yn dymuno mynychu cwrs ac mae eisoes wedi'i archebu'n llawn, mae rhestr aros hefyd ar Eventbrite.
Bydd eich adborth/gwerthusiad manwl yn hanfodol a bydd yn ein hysbysu ar sut i ddatblygu cyrsiau/gweminarau yn y dyfodol. Mae'r cyrsiau hyn yn rhyngweithiol ac efallai y bydd angen rhywfaint o baratoi .