Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw corff gweithlu strategol GIG Cymru. Rydym yn chwarae rhan flaenllaw yn addysg, hyfforddiant a datblygiad strategol y gweithlu gofal iechyd ledled Cymru. Gyda gweledigaeth glir i adeiladu gweithlu medrus a chynaliadwy sy'n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth, fel rhan o GIG Cymru, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio, datblygu a chefnogi'r gweithlu gofal iechyd presennol a'r dyfodol.
Dyma'r newyddion addysg, hyfforddiant a gyrfaoedd diweddaraf:
👉 Ydych chi'n ddeintydd gyda phrofiad a sgiliau ychwanegol mewn Deintyddiaeth Bediatrig? Cyflawnwch achrediad fel deintydd gyda Sgiliau Uwch mewn Deintyddiaeth Bediatrig - gwnewch gais erbyn 10 Mehefin 2025 i broses achredu newydd a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n sicrhau y gall byrddau iechyd fod yn hyderus bod gan y DESau y lefel profiad a'r sgiliau gofynnol i weithio'n ddiogel.
Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ymgeisio ar gael ar wefan AaGIC yma: ➡️ https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/deintyddol/deintyddion-a-sgiliau-estynedig-des/achrediad-deintyddion-a-sgiliau-estynedig-des-deintyddiaeth-bediatrig/
👉 Ydych chi'n defnyddio Technolegau Ymgolli ar gyfer addysg a hyfforddiant gofal iechyd? A hoffech chi eu defnyddio?
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru eisiau clywed eich barn ynghylch y ffordd orau ymgorffori Technolegau Ymgolli (megis realiti rhithwir a realiti estynedig) mewn addysg a hyfforddiant ar draws gofal iechyd yng Nghymru.
Byddem yn gwerthfawrogi yn fawr eich syniadau a'ch barn yn ogystal ag unrhyw brofiad a allai fod gennych i lywio'r prosiect.
I gymryd rhan yn yr ymarfer cwmpasu anfonwch e-bost at 📧 heiw.simulation@wales.nhs.uk
👉 Mewn cydweithrediad â Royal Pharmaceutical Society (RPS) rydym yn falch o gyhoeddi estyniad tair blynedd o'n rhaglen ddysgu lwyddiannus sydd wedi'i theilwra i gefnogi fferyllwyr yng Nghymru i ddarparu'r Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol Fferyllol (PIPS) yn hyderus.
Am ragor o wybodaeth ➡️ https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/fferyllfa/
👉 Rydym yn chwilio am arweinydd meddygol rhagorol sydd â brwdfrydedd dros addysg i ymgymryd â rôl ganolog fel Cyfarwyddwr Meddygol. Mae hwn yn gyfle i ddylanwadu ar ddyfodol y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru ar y lefel uchaf. ➡️
https://www.healthjobsuk.com/job/UK/Cardiff/Nantgarw/Health_Education_Improvement_Wales/Education/Education-v7167488
👉 Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol – cynyddwch eich gwybodaeth a'ch hyder ynghylch iechyd meddwl amenedigol.
Yn ystod #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwlMamau, rydym yn cyfeirio gweithlu #GIG Cymru at adnoddau a allai fod o ddefnydd yn eu rolau. ➡️ https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/ymgyrchoedd-ymwybyddiaeth/cefnogi-iechyd-meddwl-amenedigol/
👉 Ydych yn barod i wella eich dealltwriaeth o iechyd meddwl a chefnogi'r rhai o'ch cwmpas?
Os ydych chi'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, neu'r sector gwirfoddol, mae ein cwrs Llythrennedd Iechyd Meddwl Sylfaenol (Lefel 1) wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi.
Byddwch chi'n dysgu i:
🔹 mynd i'r afael â stigma gydag effaith wirioneddol
🔹 mynd ati i gael sgyrsiau sensitif yn hyderus
🔹 cynnig cefnogaeth dosturiol, wybodus
➡️ https://nhswalesytydysgu.heiw.wales/learning-and-networks/mental-health
Newyddion y gallech fod wedi'u colli:
👉 Fe wnaethon ni ddathlu'r rolau amrywiol, y gofal arbenigol a'r cyflawniadau a'r cyfraniadau anhygoel gan fydwragedd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig.
Thema eleni yw 'Bydwragedd: hollbwysig ym mhob argyfwng'. Yn ddiweddar, llwyddodd AaGIC i fynychu Cynhadledd Coleg Brenhinol y Bydwragedd 2025 a chyfweld â bydwragedd yn uniongyrchol!
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn fydwraig, beth am ymweld â'n tudalen gyrfaoedd i gael gwybod mwy? ➡️ https://aagic.gig.cymru/gyrfaoedd/gyrfaoedd-gig-cymru/rolau/bydwreigiaeth/
Mae eich llais yn bwysig. Mae pryderon yn rhan hollbwysig o greu gweithle cynhwysol a diogel. Gallant arwain at newid cadarnhaol a dyna pam mae gennym brosesau cefnogol ar waith ar gyfer codi pryderon, gan sicrhau bod staff gofal iechyd, hyfforddeion a myfyrwyr yn cael eu trin ag empathi a pharch.
Dysgwch fwy am sut a ble i godi pryder: ➡️ https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/codi-pryder-a-chodi-llais-heb-ofn/
👉 Diweddariadau pellach 🔗 https://aagic.gig.cymru/newyddion/