Neidio i'r prif gynnwy

Mae AaGIC yn darparu offer newydd i helpu cleifion â gwythiennau sy'n anodd eu darganfod yn Ysbyty Gwynedd

21 Mai 2024

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi darparu darn hanfodol o offer a elwir yn ddarganfyddwr gwythiennau ac mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion mewnol yn Ysbyty Gwynedd i wella'r profiad i gleifion sydd â gwythiennau anodd eu darganfod.

Bydd unrhyw un sydd â gwythiennau anodd i’w ffeindio yn gwybod yr anghysur pan fydd ymdrechion aflwyddiannus i ddod o hyd i wythïen, wrth gymryd gwaed.

Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru fenter o'r enw 'Hyfforddeion yn Trawsnewid Hyfforddiant' a llwyddodd y Meddyg Iau Lois Williams i gael grant o £3,000 ar ôl sylwi ar yr angen i wella'r profiad i gleifion â gwythiennau anodd i’w darganfod.

Dywedodd Dr Williams: “Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael grant i brynu peiriant darganfod gwythiennau ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn grymuso nyrsys, fflebotomyddion, myfyrwyr meddygol a meddygon iau i gymryd gwaed a chanwlâu gan gleifion sydd â gwythiennau cymhleth.

“Mae'n gweithio trwy isgoch, sy'n gallu bownsio'n ôl a dangos i ni welededd y wythïen na allwch chi ei weld â'r llygad noeth.

“Ein gobaith yw y bydd hyn yn gwella ansawdd gofal cleifion yn y dyfodol.”

Mae Dr Williams wedi cael ei gydnabod am y prosiect hwn yng Nghynhadledd Amser Datblygiad Addysgol Meddygon Iau yn ddiweddar a derbyniodd y wobr gyntaf am y cyflwyniad llafar gorau.

Dywedodd Anton Saayman, Deon Meddygol AaGIC: “Trwy’r fenter Hyfforddeion yn Trawsnewid Hyfforddiant mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella addysg a hyfforddiant ledled Cymru, gan gydnabod pwysigrwydd sylfaenol cynnwys meddygon mewn hyfforddiant i nodi meysydd i’w gwella yn eu hyfforddiant eu hunain”.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn ac yn edrych ymlaen at ei weld yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i addysg a hyfforddiant meddygol ôl-raddedig, ac yn y pen draw i ofal cleifion.”

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr, AaGIC, “Mae ein menter Hyfforddeion yn Trawsnewid Hyfforddiant wedi cael derbyniad da iawn eleni, edrychaf ymlaen at ddysgu am weithrediad a chanlyniadau’r prosiectau ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr effaith sylweddol y maent wedi’i chael ar addysg a hyfforddiant. . Byddwn hefyd yn parhau i chwilio am gyfleoedd i rannu’r gwaith gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru”.