Neidio i'r prif gynnwy

Mae AaGIC ac Agored Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau FAB!

Cyhoeddedig: 08/08/2024

Mae Agored Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o gyrraedd rownd derfynol y categori ‘Perthynas Cyflogwr y Flwyddyn’ yng ngwobrau mawreddog Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB) 2024.

Bellach yn eu 9fed blwyddyn, mae gwobrau FAB yn cydnabod y cyfraniadau cadarnhaol a wneir gan sefydliadau dyfarnu a'u gweithwyr i addysg a sgiliau yn y DU. Dyma'r seremoni wobrwyo uchafbwynt, sy'n dathlu sector o safon fyd-eang.

Mae hyn yn dathlu'r rhai sydd wedi creu cysylltiadau ac ymgysylltiad ystyrlon o fewn y diwydiant. Mae'n ymwneud â'r ymroddiad i gydweithio sydd wedi mynd ag addysg a sgiliau i uchelfannau newydd drwy arfer ragorol a syniadau blaengar.

Mae’r ddau sefydliad wedi gweithio mewn partneriaeth ers 2017 i ddatblygu, darparu, asesu a dyfarnu cymwysterau ar gyfer GIG Cymru. Maent ar hyn o bryd yn gweithio gyda'i gilydd ar ddatblygu dros 40 o gymwysterau galwedigaethol yn amrywio o Wasanaethau Cyfleusterau Lefel 2 i rolau arbenigol fel Asesiad Clinigol Lefel 7. Mae'r 'cymwysterau Cymru Gyfan' hyn yn sicrhau bod cyfleoedd DPP ar gael i holl staff y Byrddau Iechyd a'r GIG ledled y wlad, gan ddarparu cysondeb o ran disgwyliadau a darpariaeth gwasanaeth.

Mae datblygu cymwysterau perthnasol wedi cynyddu ansawdd y cyflwyno a'r ymarfer a gefnogir gan safoni effeithiol ledled y wlad. Hyd yn hyn dyfarnwyd dros 1500 o unedau sefydlu i staff clinigol newydd gan sicrhau eu bod yn gwbl barod i ddarparu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n ddiogel ac yn effeithiol.

Dywedodd Jo Creeden, Dirprwy Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifol yn Agored Cymru, “Mae Agored Cymru wrth ei fodd i gyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol y categori Perthynas Cyflogwr y Flwyddyn am ei waith gydag AaGIC.

“Rwy’n falch iawn o weld y cydweithio rhwng AaGIC ac Agored yn derbyn yr enwebiad hwn. Mae’n cydnabod partneriaeth barhaus sydd wedi cynhyrchu ystod o gymwysterau sy’n helpu staff i fod yn fwy effeithiol, yn fwy diogel, ac yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd i wella’r modd y darperir gwasanaethau,” Ian Mathieson, Cyfarwyddwr Strategaeth Addysg a Thrawsnewid yn AaGIC.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 25 Tachwedd .