Cyhoeddwyd 15/08/2024
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio adnodd newydd i helpu dysgwyr, myfyrwyr a hyfforddeion anfeddygol i deimlo'n gyffyrddus, yn hyderus ac yn cael eu cefnogi i godi pryderon.
Crëwyd y pecyn cymorth digidol i gefnogi ac annog dysgwyr i deimlo'n ddiogel ac yn gallu codi pryderon yn ystod eu hymarfer neu brofiadau dysgu yn y gwaith.
Mae codi pryderon yn rhan allweddol o sicrhau amgylchedd gwaith diogel, lles staff a gwasanaethau o ansawdd uchel i gleifion.
Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth fanwl a chanllawiau helaeth ynghylch yr hyn sy'n peri pryder, sut i godi pryder a phwysigrwydd teimlo'n ddiogel i wneud hynny.
Mae'r adnodd yn cefnogi Fframwaith 'Codi Llais Heb Ofn’ Llywodraeth Cymru, sy'n pwysleisio pwysigrwydd creu diwylliant o fewn sefydliadau gofal iechyd lle mae "codi llais, ochr yn ochr ag ymateb amserol a phriodol i unrhyw bryderon a godir, yn cael eu cefnogi o fewn amgylchedd diogel".
Dywedodd Cyfarwyddwr Strategaeth Addysg a Thrawsnewid AaGIC, Ian Mathieson:
"Nid yw codi pryder yn beth hawdd i'w wneud ac mae'n bwysig bod pob aelod o'r tîm gofal iechyd, gan gynnwys myfyrwyr, yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel i godi llais pan fo angen.
"Wrth i chi ymgymryd ag addysg a hyfforddiant i ddod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, bydd gennych lawer o brofiadau dysgu deinamig a thrawsnewidiol, a bydd y profiadau hyn yn hynod gyfoethog a gwerth chweil.
Fodd bynnag, efallai y byddwch hefyd yn dyst i ddigwyddiadau neu gyfarfyddiadau sy'n gyfystyr ag arfer anniogel neu ymddygiad annerbyniol. Rydym am sicrhau eich bod yn teimlo'n ddiogel, yn cael eich cefnogi ac yn gallu codi llais a bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu i roi sicrwydd ynghylch y broses a'r cymorth sydd ar gael."
Dywedodd Pennaeth Profiad Lleoliad a Gwella AaGIC, Simon Cassidy:
"Mae ein pecyn cymorth wedi'i gynllunio i'ch helpu chi, yn ogystal â'r rhai sy'n cefnogi eich ymarfer neu'ch hyfforddiant, i fyfyrio ar yr hyn y gallech fod wedi'i weld, gwneud synnwyr o'ch meddyliau a'ch teimladau a phenderfynu a oes angen cynyddu pryder. Mae'r adnodd hefyd yn cynghori ar sut i baratoi orau ar gyfer y camau nesaf o ran codi pryder a chodi llais yn ddiogel".
Am fwy o wybodaeth ac i gael mynediad at y pecyn cymorth, ewch i'n tudalen we Pecyn Cymorth Myfyriol Codi Pryderon.