Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau GIG Cymru 2024 – rydym wedi cyrraedd y rhestr fer!

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru ar gyfer datblygu fframwaith cydlynydd wardiau esgor cenedlaethol.

Gweithiodd AaGIC ar y cyd ag Arweinwyr Bydwreigiaeth Strategol ledled Cymru i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella ansawdd. Mae cydlynwyr wardiau esgor (LWCs) yn arwain ar ddarparu gofal diogel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn yr amgylchedd geni ac yn chwarae rôl arweiniol allweddol o fewn timau aml-broffesiynol. Nodwyd bod eu proses sefydlu yn amrywio ar draws byrddau iechyd ac nad oedd ganddynt lwybr cydnabyddedig ar gyfer datblygu.

Bu AaGIC yn gweithio gydag arweinwyr clinigol o fyrddau iechyd a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu’r Fframwaith Cydlynydd Wardiau Esgor sydd wedi derbyn ymateb  gadarnhaol ac wedi’i roi ar waith mewn byrddau iechyd ledled Cymru.

Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn gwelliant ac ansawdd ar draws iechyd a gofal yng Nghymru, gan arddangos y gwaith gwella ansawdd a diogelwch anhygoel sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau pobl yng Nghymru.

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr AaGIC Rwy’n falch iawn o weld bod ein gwaith yn cael ei gydnabod mor eang a dymunaf bob lwc i’r timau ar gyfer cyhoeddi’r enillwyr.”

Dywedodd Dr Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg “Mae’r fframwaith newydd hwn wedi’i greu drwy gydweithio ag Arweinwyr Strategol Bydwreigiaeth a bydwragedd o bob rhan o Gymru. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi datblygiad Cydlynwyr Wardiau Esgor Newydd a rhai sy'n dymuno gwneud hynny. Mae gofalu am fenywod, pobl sy'n geni a'u teuluoedd yn hollbwysig ym mhob lleoliad mamolaeth gan gynnwys y ward esgor. Bydd y fframwaith cynhwysfawr hwn yn cefnogi dull safonol ledled Cymru o sefydlu, hyfforddi a datblygu Cydlynwyr Wardiau Esgor.”

Cyhoeddir yr enillwyr yn seremoni Gwobrau GIG Cymru 2024 ar 24 Hydref 2024.