Yn ystod haf 2024, cyflogodd AaGIC 14 o fyfyrwyr ar gyfer interniaeth 8 wythnos. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol o fewn AaGIC i gael cipolwg ar sut beth yw gweithio i'r GIG yng Nghymru.
Yma gallwch ddarllen am brofiad interniaeth Seren yn AaGIC.
Enw: Seren Jones
Wedi graddio yn: Rheolaeth Busnes BSc
Prifysgol: Caerdydd
Interniaeth gyda: Tîm Cynllunio a Pherfformiad
Fy mhrofiad cyffredinol
Helo! Seren, graddedig mewn Rheolaeth Busnes o Brifysgol Caerdydd ydw i. Yn ystod fy ngradd, cwblheais fy nhraethawd hir ar arweinyddiaeth yn GIG Cymru. Cefais fy ysbrydoli gan y brwdfrydedd am ofal iechyd y bu i mi ganfod wrth weithio fel cynorthwyydd gofal yn fy nghartref gofal lleol yn ystod y pandemig. Gwnaeth canfyddiadau fy nhraethawd hir ddim ond dyfnhau fy niddordeb mewn dilyn gyrfa o fewn GIG Cymru.
Mae’r cyfle hwn wedi bod yn amhrisiadwy, gan gynnig cipolwg cynhwysfawr i mi i’r timau amrywiol o fewn y sefydliad, gan fy helpu i nodi’n union ble mae fy ngwir ddyheadau. Rwyf wedi fy synnu ar yr ochr orau gan y diwylliant cynorthwyol a thosturiol sy’n bresennol yn AaGIC, sydd wedi cyfrannu’n fawr at fy nhwf a’m datblygiad proffesiynol. Rwy’n annog unrhyw un sy’n ystyried y cynllun interniaeth i wneud cais, gan iddo fod yn brofiad hynod gyfoethog a gwerth chweil.
Crynodeb o'r prosiect
Rwy’n teimlo’n hynod ffodus i fod wedi cael croeso mor gynnes i’r Tîm Cynllunio a Pherfformiad, lle’r oedd fy mhrosiect yn canolbwyntio ar Reoli Argyfwng a Pharhad Busnes. O ystyried pwysigrwydd hanfodol y maes hwn, mae wedi bod yn fraint i mi gyfrannu at waith creiddiol AaGIC. Mae fy mhrif gyfrifoldebau wedi cynnwys adolygu, ailddrafftio a phrofi Cynllun a Pholisi Parhad Busnes AaGIC. Yn ogystal, mae wedi cynnwys ymgymryd â rolau amrywiol, megis arwain y gwaith o greu poster gwybodaeth ar gyfer yr holl staff a darparu cymorth rheoli prosiect ar gyfer y fenter arwyddocaol hon. Rwyf hefyd wedi cadeirio a monitro gweithgareddau gyda'r grŵp gwaith, a chyflwyno adroddiadau i fwrdd y prosiect.
Yn y dechrau
I ddechrau, ymgymerais ag ymchwil gefndir helaeth i ddeall yn llawn y cyd-destun a nodweddion fy ngwaith. Roedd y wybodaeth sylfaenol hon yn hanfodol i wneud cyfraniadau ystyrlon a diwygiadau i'r cynlluniau presennol. Unwaith i'r broses ailddrafftio gael ei chwblhau a'i chymeradwyo, fe wnaethom ddatblygu adnoddau ychwanegol wedi'u teilwra i wahanol grwpiau staff perthnasol.
Camau Nesaf
Gan adeiladu ar ein cynnydd hyd yma, mae'r tîm yn bwriadu parhau i brofi dibynadwyedd y cynllun drafft newydd gyda phob tîm sefydliadol. Maent hefyd yn anelu at barhau i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith hwn trwy ddarparu sesiynau hyfforddi ychwanegol.
Y tu allan i'r gwaith a'r brifysgol
Rwy'n mwynhau pobi ac yn aml yn dod â'm pobi i'm tîm! Rwyf hefyd yn mwynhau gwrando ar bodlediadau, cymdeithasu gyda ffrindiau ac archwilio lleoedd newydd yn fy ardal a thu hwnt.