Yn ystod haf 2024, cyflogodd AaGIC 14 o fyfyrwyr ar gyfer interniaeth 8 wythnos. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol o fewn AaGIC i gael cipolwg ar sut beth yw gweithio i'r GIG yng Nghymru.
Yma gallwch ddarllen am brofiad interniaeth Ben yn AaGIC.
Enw: Ben Leyshon
Wedi graddio yn: BA Cyfryngau a Chyfathrebu
Prifysgol: Prifysgol Abertawe
Interniaeth gyda: Tîm Datblygu’r Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd
Fy mhrofiad cyffredinol
Helo, Ben ydw i – yn raddedig o Brifysgol Abertawe gyda gradd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu. Yn ystod fy amser yn y Brifysgol, wnes i barhau i feithrin fy sgiliau digidol, gan ragori mewn ffilmio a golygu. Tra'n gweithio yn AaGIC, wnes i gael sawl cyfle i arddangos fy sgiliau trwy gynorthwyo fy nhîm gyda dylunio graffeg, datrys problemau creadigol, a chofnodi straeon personol.
Mae dim ond modd disgrifio cyfle’r interniaeth hon fel un wych sydd wedi gwireddu fy nyheadau. Mae wedi fy ngalluogi i archwilio sefydliad nad oeddwn yn gwybod llawer amdano o’r blaen. Hefyd, mae wedi fy ngalluogi i gymryd rhan ar draws timau lluosog i ddeall pob rôl, a chynnig fy ngwasanaethau mewn unrhyw un a phob maes yr wyf wedi teimlo y gallwn wneud gwahaniaeth ynddo. Mae'r staff yn AaGIC yn rhagorol ar gyfer gweithle sy’n gweithredu; mae’r cymorth a roddwyd a’r anogaeth i arwain eich taith broffesiynol eich hun wedi bod yn un o’r rhesymau mwyaf dros fy nghynnydd. Os byddwch yn ystyried gwneud cais - mae'n gyfle yr wyf yn eich annog i’w gymryd!
Crynodeb o'r prosiect
Roedd fy mhrosiect wedi cael ei arwain gyda’r tîm Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Wrth i mi gael y dasg o recordio cyfranogwyr ar gyfer adnodd hyfforddi ar-lein i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gwnaeth fy mhrif brosiect arwain ataf i arwain cyfarfodydd. Gwnaeth hefyd arwain ataf i gysylltu â gweithwyr iechyd allanol i drefnu cynnwys, cyfarfodydd i osod yr offer a chofnodi’r stori, ac yn olaf golygu’r cynnwys cyn iddo gael ei gyhoeddi. Y tu allan i fy mhrif brosiect, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gynorthwyo gyda chreu delweddau, dylunio ffeithluniau, cynorthwyo fy nhîm gyda chynllunio cynadleddau, adolygu a diweddaru rhestr chwarae dysgu ar-lein, a chynorthwyo fy nhîm gyda chyflwyniad ar gyfer Fforwm Staff. Mae’r cymorth a’r ymddiriedaeth y mae fy nhîm wedi’i rhoi i mi wedi bod yn anhygoel, mae eu proffesiynoldeb a’u hanogaeth i mi feddwl yn annibynnol wedi fy annog i adael fy lloches ac i ryfeddu fy hun. Mae fy ngwaith yn adlewyrchiad o ddiwylliant ac awyrgylch y tîm – diolch yn fawr iawn iddyn nhw i gyd.
Yn y dechreu
Cyn deall pa gynnwys roedd fy nhîm yn gobeithio ei gofnodi, roedd yn rhaid i mi gael dealltwriaeth sylfaenol o'u datganiad o genhadaeth. Ar ôl darllen sawl dogfen a dod yn gyfarwydd â'u hamcanion, dechreuais wneud ymchwil pellach i'r model gofal iechyd yr oeddent yn gobeithio ei bortreadu. Unwaith yr oeddwn yn gyfforddus â'r model, dechreuais ddrafftio syniadau ar gyfer pa fformat fyddai'r recordiadau, ac yna dechreuais ddrafftio cwestiynau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, darparwyr gofal iechyd, a'r system y maent yn gweithredu ynddi.
Camau nesaf
Oherwydd y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, bydd y gwaith yn parhau i ddatblygu nes iddo gael ei ryddhau o’r diwedd yng Nghynhadledd Genedlaethol AHP ym mis Tachwedd 2024. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cael ei lansio heb unrhyw broblemau, gyda chymorth pellach i'r adnoddau sydd eisoes yn cael ei drafod.
Y tu allan i'r gwaith a'r brifysgol
Mae gen i sianel YouTube lle dwi'n dadansoddi prosiectau’r cyfryngau, dwi'n dylunio a lluniadu cysyniadau tatŵ, dwi'n mwynhau archwilio llefydd newydd ac rydw i wedi arfer â thaith ddigymell (a heb ei threfnu) bob hyn a hyn.