Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Datblygedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru yn llwyddiant

Published 08/06/24

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch iawn o weld dull mwy cyson o ddatblygu, addysgu a rheoli rolau  ymarferwyr clinigol datblygedig (enhanced), uwch ac ymgynghorol ar draws GIG Cymru yn awr ac yn y dyfodol.

Gellir priodoli’r gwelliant enfawr hwn i ddatblygiad staff i weithrediad llwyddiannus y Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Datblygedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru dros y deuddeg mis diwethaf.

Wedi’i lansio flwyddyn yn ôl heddiw (8 Mehefin 2023), mae’r ddogfen yn amlinellu argymhellion i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ynghylch darparu gwell cymorth i unigolion sy’n gweithio fel ymarferwyr clinigol datblygedig , uwch neu ymgynghorol yng Nghymru.

Yn dilyn ymgysylltu cenedlaethol helaeth, cynhyrchwyd y camau gweithredu a argymhellwyd gan AaGIC i wella cyfleoedd addysg i ymarferwyr a helpu i gadw staff, sydd  yn arwain at ofal o ansawdd uchel i gleifion.

Ers ei gyhoeddi, mae AaGIC wedi gweld lefelau uchel o ymgysylltu a gweithredu’r argymhellion mewn byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled Cymru:

  • bod dealltwriaeth gynyddol o unigolion sy’n gweithio ar lefelau ymarfer datblygedig, uwch, neu lefelau ymgynghorol  ar draws GIG Cymru fel rhan hanfodol o’r tîm gofal iechyd amlbroffesiynol;
  • mae gan bob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru bellach arweinwyr ar gyfer cefnogi rolau ymarfer uwch;
  • mae gan ymarferwyr clinigol datblygedig, uwch,  ac ymgynghorol bellach lwybrau gyrfa clir gyda chynlluniau dilyniant ar waith sy’n gwneud y gorau o’u sgiliau a’u gwybodaeth i ddiwallu anghenion iechyd poblogaeth Cymru;
  • mae fforymau cenedlaethol wedi'u sefydlu i sefydliadau rannu arfer gorau a chynnig cymorth i eraill;

Mae AaGIC yn credu y bydd gweithredu'r fframwaith yn gyson yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal diogel, hygyrch ac o ansawdd i gleifion.

Mae ymarferwyr clinigol  datblygedig, uwch ac ymgynghorol yn gweithio ar draws pob maes gofal iechyd. Defnyddir y termau 'datblygedig', 'uwch' ac 'ymgynghorol' i nodi 'lefel ymarfer' ymarferydd clinigol. Mae diffinio lefel arferion yn galluogi adnabod a chydnabod sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd unigolyn yn eu maes gwaith.

Mae hyn yn galluogi sefydliadau i gynllunio a theilwra’n well yr addysg, yr oruchwyliaeth, y cymorth a’r llywodraethu sydd eu hangen i alluogi unigolyn i ddatblygu yn ei rôl a chyrraedd lefel uwch o ymarfer.

Dywedodd Chris Williams, Rheolwr Datblygu Practis Uwch ac Ymgynghorol yn AaGIC a arweiniodd ar ddatblygu’r fframwaith:

“Mae’n bwysig bod defnyddwyr gwasanaeth, ymarferwyr a chyflogwyr i gyd yn deall y gwahanol lefelau o ymarfer clinigol. Rydym yn falch bod y fframwaith wedi'i groesawu a'i fabwysiadu'n genedlaethol i gefnogi ymarferwyr yn well gyda'r hyfforddiant a'r llywodraethu sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gofal iechyd yn ddiogel. Drwy gefnogi’r unigolion hyn, rydym yn cydnabod eu sgiliau ac yn eu cadw yng ngweithlu GIG Cymru."

Dywedodd Dr Wendy Mashlan , Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru ar Uwch-Ymarfer:

“Mae’r fframwaith wedi bod yn allweddol wrth godi’r agenda a’r proffil o ran datblygu rolau Datblygiedig, Uwch ac Ymgynghorol  aml-broffesiynol ar draws pob maes ymarfer gofal iechyd yng Nghymru. Mae'n gyfeirnod ardderchog ar gyfer y rhai sy'n dymuno dilyn llwybr gyrfa glinigol a dylanwadu ar newid gwasanaethau, addysg a'r agenda ehangach o amgylch iechyd. Mae’r llwybr yn amlwg yn cefnogi twf o ddechreuwyr i arbenigwr ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel.”

Ewch i'n tudalen we Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Datblygedig, Uwch ac Ymgynghorol i gael rhagor o wybodaeth.