Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cymryd camau breision yn ei ymdrech i hyrwyddo arweinyddiaeth dosturiol o'r radd flaenaf yn GIG Cymru.
Mae dwy garfan o'r Rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol Uwch (52 o glinigwyr) wedi'u darparu gan AaGIC hyd yma. Gyda charfan un yn cwblhau'r rhaglen ym mis Mehefin 2023 i glod mawr. Dyma'r adborthcadarnhaol!
Ar ben hynny, oherwydd y galw mawr am y rhaglen hon, y gobaith yw y bydd trydedd a phedwaredd garfan yn dechrau Hydref/Tachwedd 2023. Ar hyn o bryd mae ceisiadau ar gyfer carfan tri a phedwar ar agor Gwella.
Yn yr un modd, cynhaliwyd cyflwyniadau diwedd y flwyddyn ar gyfer Rhaglen Cymrodoriaethau Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTP) yn Nhŷ Dysgu yn ddiweddar, ar 25 Gorffennaf 2023. Disgwylir i'r rhaglen nesaf ddechrau ym mis Medi 2023.
Mae gennym hefyd ddwy garfan yn y Rhaglen Ddarpar Brif Weithredwr (ACE) a lansiwyd yn y Gwanwyn eleni.
Yn y cyfamser, bydd y Gronfa Dalent Ddarpar Weithredwyr (2023-2025) yn dechrau gyda digwyddiad lansio wedi'i drefnu ar gyfer 15 Medi 2023. Mae 72 o geisiadau eisoes wedi'u derbyn hyd yn hyn, drwy ein proses ymgeisio gynhwysol Gwella
Mae'r chwarter hwn hefyd wedi gweld treialu modiwl cyntaf y rhaglen datblygu arweinyddiaeth dosturiol, sydd wedi'i hanelu at arweinwyr ar bob lefel. Mae'r adborth ar gyfer hyn ar fin digwydd, a bydd y tri modiwl sy'n weddill ar gael tua diwedd mis Medi.
Darparwyd y Gyfres Arweinyddiaeth Arbenigol Rithwir yn gynharach eleni hefyd. Cafodd y gweminarau a ddeilliodd o hynny eu recordio ac maent yn cael eu trawsgrifio a'u cyfieithu ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu eu bod bellach ar gael yn eang fel cyfres 'ar alw' i gefnogi arweinwyr ar bob lefel ar draws iechyd a gofal yng Nghymru.
Ar ben hynny, mae ystod o Offer ac Adnoddau Arweinyddiaeth Dosturiol ar gael i'w cyrchu ar Gwella Cyn bo hir bydd Pecyn Cymorth Arweinyddiaeth a Diwylliant yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â GIG Lloegr.
Gallwn ddod i'r casgliad yn ddiogel y bydd GIG Cymru yn cael mwy fyth o fudd o'i egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol, rhaglenni, offer ac adnoddau.