Neidio i'r prif gynnwy

Cwrs hyfforddi newydd cynllunio'r gweithlu gofal sylfaenol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o rannu'r  cwrs hyfforddi Cynllunio'r Gweithlu Gofal Sylfaenol . Mae'r cwrs ar gael ar Y Ty Dysgu, platfform dysgu GIG Cymru.

Mae'r cwrs yn cwmpasu cyfres o adnoddau i gefnogi staff sy'n ymgymryd â gweithgareddau cynllunio'r gweithlu ym maes gofal sylfaenol. Gan gefnogi dysgu a datblygu pellach, gellir defnyddio'r cwrs tuag at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) hefyd. 

Yn ogystal â phedair sesiwn hyfforddi a recordiwyd ymlaen llaw y gellir eu cyrchu yn dibynnu ar eich anghenion unigol, mae'r adnoddau'n cynnwys ystod eang o offer i helpu i ddatblygu sgiliau cynllunio'r gweithlu.

Bydd y bobl hynny sydd eisoes wedi ymgymryd â hyfforddiant cynllunio'r gweithlu ac sydd â diddordeb i adnewyddu eu sgiliau, hefyd yn elwa o'r cwrs hwn.

 Cysylltwch â Maxine Pring i ymholi ac i gael ragor o wybodaeth am y cwrs.