Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o rannu'r cwrs hyfforddi Cynllunio'r Gweithlu Gofal Sylfaenol . Mae'r cwrs ar gael ar Y Ty Dysgu, platfform dysgu GIG Cymru.
Mae'r cwrs yn cwmpasu cyfres o adnoddau i gefnogi staff sy'n ymgymryd â gweithgareddau cynllunio'r gweithlu ym maes gofal sylfaenol. Gan gefnogi dysgu a datblygu pellach, gellir defnyddio'r cwrs tuag at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) hefyd.
Yn ogystal â phedair sesiwn hyfforddi a recordiwyd ymlaen llaw y gellir eu cyrchu yn dibynnu ar eich anghenion unigol, mae'r adnoddau'n cynnwys ystod eang o offer i helpu i ddatblygu sgiliau cynllunio'r gweithlu.
Bydd y bobl hynny sydd eisoes wedi ymgymryd â hyfforddiant cynllunio'r gweithlu ac sydd â diddordeb i adnewyddu eu sgiliau, hefyd yn elwa o'r cwrs hwn.
Cysylltwch â Maxine Pring i ymholi ac i gael ragor o wybodaeth am y cwrs.