Mae AaGIC yn hyrwyddo gwerthoedd ymddygiad tosturiol, cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch tuag at bawb.
Yng ngoleuni faint o gasineb, trais, gwahaniaethu a chamwybodaeth a ledaenir trwy'r platfform X / Twitter, teimlwn nad yw bellach yn gyson â'r gwerthoedd hyn a'r lle iawn i ni gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, partneriaid a chymunedau lleol.
O ganlyniad, rydym wedi penderfynu cau ein cyfrifon X / Twitter ddydd Gwener 23 Awst.
Diolch i bawb sydd wedi cysylltu â ni trwy X / Twitter rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n cysylltiadau â rhanddeiliaid, partneriaid a'r cymunedau trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill.