Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Ibby gydag AaGIC.
Enw: Ibby
Yn astudio: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Prifysgol: Prifysgol De Cymru
Interniaeth gyda: Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant AaGIC
Ibby Osman ydw i ac rwy’n raddedig Prifysgol De Cymru. Astudiais i radd Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gweithiais i ar fodiwl cymhwysedd diwylliannol i addysgu a chynyddu ymwybyddiaeth y sefydliad pan ddaw i bwysigrwydd diwylliant.
Wedi gweithio i lawer o wahanol sectorau ac mewn llawer o swyddogaethau yn y GIG, byddwn i’n dweud mai AaGIC yw un o’r sefydliadau gorau rwyf wedi gweithio gydag ef, ac mae hynny’n siarad yn onest, o’r galon. Mae’r holl sefydliad, nid yn unig yr adran, wedi bod yn gynhwysol, yn gefnogol a hefyd wedi bod yn fodlon helpu ac addysgu cenhedlaeth dyfodol y GIG.
Gadewais i’r interniaeth yn llawn ysbrydoliaeth ac wedi fy ysgogi i arddangos y sefydliad.
I mi, y rhan orau o fod yn rhan o’r rhaglen oedd cydweithio â’r tîm, sgwrsio a defnyddio’r tîm fel bwrdd seinio i danio syniadau. Fe helpodd y tîm i mi archwilio fy nghymunedau’n ddyfnach ac ymgysylltu a chydweithio â nhw ar ran AaGIC. Roedd cael y fath ryddid i gyflawni fy mhrosiect yn wych, ac rwy’n ddiolchgar am hynny.
Mae diwylliant AaGIC o fod yn arweinwyr moesegol a thosturiol sy’n greadigol ac yn arloesol pan ddaw i wella bywydau pobl yn cyd-fynd yn union â’m gwerthoedd personol. Dyna pam wnes i gais am yr interniaeth ac rwy’n ddiolchgar iawn i fod wedi cael y cyfle i weithio gyda thîm gwych. Gwnaethon nhw fy nghefnogi’n fawr iawn, a’m herio i ddatblygu fy ngwybodaeth mewn sawl maes.
Crynodeb o’r prosiect
Gwnes i fy interniaeth gyda’r tîm arweinyddiaeth a sefydliadol, yn gweithio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Fy mhrosiect i oedd archwilio a datblygu modiwl ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chymhwysedd diwylliannol ar gyfer AaGIC. Byddwn i’n gwneud hyn drwy fynd i’r cymunedau a chlywed gan bobl a chymunedau wedi’u tangynrychioli prin y clywir ganddynt.
Rwy’n unigolyn sy’n angerddol dros gydraddoldeb iechyd a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes iechyd a'r tu hwnt. Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chyfiawnder cymdeithasol yn rhywbeth rwy’n anelu at ei gyflawni.
Diben y prosiect
Diben fy mhrosiect i oedd datblygu cynnig dysgu a datblygu ar ymwybyddiaeth ddiwylliannol i AaGIC. Y nod oedd cynyddu ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chymryd ymagwedd groestoriadol i ddeall y rhwystrau mae pobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli wir yn eu hwynebu.
Bydd datblygu’r adnodd ymwybyddiaeth ddiwylliannol hon yn sicrhau bod gan holl randdeiliaid AaGIC gyfle cyfartal i fod yn gymwys yn ddiwylliannol drwy ddysgu am wahanol ddiwylliannau a chymunedau a’r heriau y gallant eu hwynebu.
Cyflawni’r prosiect
Roedd rhai ystyriaethau allweddol roedd yn rhaid i mi eu cynnwys wrth ddatblygu’r adnodd hwn. Un o’r rheiny oedd deall cynulleidfa’r modiwl hwn. Roeddwn i am gael cymaint o ymgysylltu â phosib, felly roedd yn rhaid i mi ystyried defnyddwyr mewnol ac allanol, clinigol ac nad oeddent yn glinigol a chytuno ar ymagwedd a oedd yn addas i anghenion y defnyddiwr. Roeddwn i am sicrhau bod grwpiau diwylliant, cymunedau a grwpiau cynrychioli yn cael eu hannog ac y rhoddir cyfle iddynt rannu eu profiadau personol.
Rwyf hefyd wedi gweithio’n gydweithredol mewn meysydd AaGIC sydd eisoes ag ymwybyddiaeth ddiwylliannol i rannu arfer gorau.
Roedd y prosiect yn uniongyrchol gysylltiedig â chefnogi Amcanion Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol AaGIC 13.4, 13.5 ac Amcan Strategol IMTP 5.2
Camau nesaf
Mae AaGIC bob amser yn ymrwymedig i gael gweithlu amrywiol sy’n cynrychioli ei bobl a chymunedau Cymru. Byddai hyn yn sicrhau ein bod ni’n cyflawni gwasanaethau sy’n parchu ac yn adlewyrchu anghenion pawb yn y gymuned. Bydd bod yn gymwys fel sefydliad yn helpu i gyflawni’r nod hon yn fawr iawn.
Y nod wreiddiol oedd creu modiwl ymwybyddiaeth ddiwylliannol sy’n arddangos yr holl nodweddion gwarchodedig a grwpiau cymdeithasol. Fodd bynnag, bydd y modiwl cyntaf nawr yn cynnwys pwysigrwydd diwylliant i’r grwpiau ethnig lleiafrifol hynny, yn unol â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol
Yn fy amser hamdden, rwyf yn mwynhau gwirfoddoli’n bennaf i gynrychioli cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli a phrin y clywir eu llais. Rwy’n gobeithio parhau i ddysgu o’r profiad hwn, a bod yn enghraifft o arweinydd trugarog a cydweithiol â’r nod o fod yn feddyliwr cynaliadwy ac arwain at waith creu amgylchedd, amrywiol, cynhwysol a chyfartal.
Mae Ibby bellach wedi ymuno â HEIW ar gyfer interniaeth 12 mis a ddechreuodd yn hydref 2022.