Neidio i'r prif gynnwy

Gwyddorau Bywyd

Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn yn gwneud cyfraniad mawr at y gwaith o wella’n dealltwriaeth o afiechydon a sut i’w trin. Mae hefyd yn bosibl y bydd staff yn gyfrifol am ddatblygu ffyrdd newydd o drin problemau meddygol hefyd, fel anffrwythlondeb neu alergeddau.

Maent yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y labordy mewn ysbytai, fel arfer mewn labordy patholeg glinigol lle maent yn dadansoddi samplau cleifion ac yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar feddygon iddynt allu rhoi diagnosis cyntaf cywir. Maent hefyd yn gweithio gyda meddygon i ddewis y driniaeth fwyaf priodol ar wardiau ysbytai neu yn y gymuned. Mae gwasanaethau geneteg yn cael eu cynnig mewn ysbytai arbenigol fel arfer.

Gweler y manylion am yrfaoedd gwahanol ym maes gwyddorau bywyd.

Addysg a hyfforddiant

Gall myfyrwyr astudio ar ddwy lefel:

PTP: Gall myfyrwyr astudio unrhyw un o’r graddau tair blynedd hyn:

Bydd cwblhau unrhyw un o’r ddwy radd uchod yn caniatáu i’r ymgeisydd gofrestru’n Wyddonydd Biofeddygol â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd. Mae cofrestru yn hanfodol os ydych yn dymuno gweithio yn y GIG neu i awdurdodau lleol.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.

STP: Gweler manylion am gyfleoedd STP.

Dolenni defnyddiol: