Cynllun Gweithlu Fferylliaeth Strategol
Mae’r cynllun gweithlu fferylliaeth strategol hwn wedi’i ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid
Ein nod yw gweld y cynllun hwn yn sbarduno newid radical a gwelliannau cynhwysfawr o ran y ffordd rydym yn datblygu, gwerthfawrogi a chefnogi ein gweithlu fferylliaeth, i gydnabod y rôl arweinyddiaeth glinigol y mae’r gweithlu'n ei chwarae fwy a mwy wrth ofalu am bobl sy’n defnyddio meddyginiaethau, mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau fferyllol mewn
Gofal sylfaenol - clystyrau a chontractwyr (fferyllfeydd cymunedol a phractisau cyffredinol)
Sefydliadau'r GIG - ysbytai, gofal brys, gwasanaethau arbenigol a thimau gofal sylfaenol
Buom yn siarad â Gweithwyr, cyflogwyr, contractwyr annibynnol, cyrff proffesiynol, undebau llafur, darparwyr addysg, elusennau a Llywodraeth Cymru
Edrychwyd hefyd ar ymchwil, polisïau a data gweithlu i greu'r cynllun. Mae ganddo 31 o gamau gweithredu allweddol ar draws saith thema.
Dyfynnu
Addysg a Gwella Iechyd Cymru. 2023. Cynllun Gweithlu Fferylliaeth Strategol AaGIC
Adnoddau
Cynnwys cysylltiedig