Pwrpas yr adnodd
Pwrpas yr adnodd hwn yw codi a meithrin ymwybyddiaeth o rôl fferyllwyr ymgynghorol. Bwriedir iddo hefyd ysgogi sgyrsiau ynglŷn â’r meysydd gwasanaeth y mae angen arweinyddiaeth fferyllwyr ymgynghorol arnynt i wella deilliannau iechyd y boblogaeth.
Ffrwyth gwaith ymchwil, dadansoddi data ac ymgyrchoedd ymgysylltu â rhanddeiliaid yw’r adnodd hwn, a gynhaliwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru rhwng Awst 2023 ac Ionawr 2024. Mae’n cynrychioli’r cam cyntaf, dan Gam Gweithredu 12 y Cynllun Gweithlu Fferylliaeth Strategol, i ‘Gytuno ar Strategaeth Fferyllwyr Ymgynghorol i Gymru’ a’i gweithredu.
Cynulleidfa Darged
Lluniwyd yr adnodd hwn ar gyfer
“Mae cael tîm amrywiol o weithwyr proffesiynol, yn enwedig o statws cyfartal, yn cynnig lefel o sgwrsio, trafod a chynllunio strategol y tu hwnt i ddynameg y tîm nyrsio / meddygon safonol”, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cymru.
Arweinyddiaeth Glinigol er budd defnyddio meddyginiaethau
Mae meddyginiaethau’n rhan annatod o ddarpariaeth gofal iechyd modern, ac yn defnyddio adnoddau ariannol sylweddol, gweler Ffigur 1.
Mae’r rhagolygon ar gyfer y degawd nesaf yn darogan cynnydd yng ngraddfa a chymhlethdod y defnydd o feddyginiaethau, yn sgil cyffredinrwydd cynyddol cyflyrau hirdymor ymysg poblogaeth sy'n heneiddio1. Mae gweithlu medrus, a chydweithio, yn allweddol i wireddu'r manteision posibl ar gyfer iechyd y cyhoedd yn sgil datblygiadau mewn meddygaeth ddigidol a meddygaeth fanwl, yn ogystal â deallusrwydd artiffisial1.
Mae angen inni sicrhau bod y cymysgedd sgiliau mewn uwch dimau arweinyddiaeth glinigol yn optimaidd. Mae arweinyddiaeth glir yn angenrheidiol ar gyfer stiwardiaeth feddyginiaethol, ar draws y system, i sicrhau gwelliannau iechyd lle mae meddyginiaethau’n rhan sylweddol o ofal.
Gall fferyllwyr ymgynghorol arwain gwasanaethau neu ddarparu arweinyddiaeth ar y cyd. Mae hyn yn galluogi gwell defnydd o set sgiliau pob disgyblaeth glinigol a chyflawniad modelau gweithlu mwy cynaliadwy. Mae hyn yn cyd-fynd â nod GIG Cymru o ddarparu modelau gweithlu di-dor, amlbroffesiynol ac amlasiantaeth erbyn 20302.
Ffigur 1: Graddfa a chymhlethdod cynyddol meddyginiaethau modern
Graddfa a chymhlethdod cynyddol y defnydd o feddyginiaethau yng Nghymru |
|
40% o feddyginiaethau’n bresgripsiynau ysbyty, 60% yn bresgripsiynau gofal sylfaenol*.
*Yn 2021-2022 Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. 2023. Rhagnodi Cynnydd3 |
Bydd y defnydd o feddyginiaethau’n parhau i gynyddu dros y degawd nesaf, oherwydd: -
+ Amlafiachedd – mwy o bobl â >2 gyflwr cronig hirdymor. ++ amlgyffuriaeth – y defnydd o feddyginiaethau lluosog. +++ mae meddygaeth fanwl yn ystyried geneteg unigolion, eu ffyrdd o fyw a’u hamgylcheddau i bennu’r triniaethau mwyaf addas a buddiol. Llywodraeth Cymru. 2023. Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth (SEA). Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy2 |
Cyflwyno safonau STEEEP
Mae fferyllwyr ymgynghorol yn gyfryngau pwysig i ddarparu gofal o ansawdd, fel y’i disgrifir gan safonau ‘STEEEP’ (Diogel, Amserol, Effeithiol, Effeithlon, Teg, Canolbwyntio ar Unigolion), yn Fframwaith Ansawdd a Diogelwch y GIG Llywodraeth Cymru: Dysgu a Gwella4. Mae ganddynt gyfrifoldebau fel lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella deilliannau iechyd y boblogaeth trwy ddyrannu adnoddau.
Safonau STEEEP |
Cyfraniad Rôl y Fferyllydd Ymgynghorol yn y maes hwn |
Astudiaeth Achos: Fferyllydd ymgynghorol diabetes |
|
Mae fferyllwyr ymgynghorol yn meddu ar wybodaeth a sgiliau arbenigol helaeth o ran defnyddio meddyginiaethau, sydd wedi’u gwreiddio mewn ymarfer clinigol cyfredol |
|||
Diogel Sut mae’r rolau’n hyrwyddo diogelwch ar draws y GIG? |
Maent yn gyfrifol am amlhau i’r eithaf y buddion a gaiff unigolion yn sgil meddyginiaethau, a lleihau achosion o niwed. Gwnânt hyn drwy ddylanwadu ar yr agenda lywodraethu ar lefelau uwch ar draws sefydliadau. Maent yn arwain yr orchwyl o roi ymyriadau meddyginiaethol priodol ar waith ac yn gyfrifol am sicrhau’u bod yn ddiogel drwy gyfrwng y canlynol - bod yn fodelau rôl clinigol ac yn fentoriaid y tu hwnt i ffiniau eu sefydliadau - bod yn arweinwyr ac yn gydweithredwyr ymchwil gweithredol ym maes defnyddio meddyginiaethau - bod yn addysgwyr ar draws ffiniau proffesiynol (e.e. diweddaru cwricwla amlbroffesiynol ar ddefnyddio meddyginiaethau risg uchel a sgiliau ymarfer) |
Nodi rhybuddion diogelwch meddyginiaethau risg uchel ar sail prinder pinnau inswlin tafladwy. Cyfrifol am gymeradwyo a goruchwylio prosesau cyfathrebu i reoli'r prinder ar draws y Bwrdd Gofal Integredig ar gyfer pobl â diabetes trwy gynnig pinnau wedi'u llwytho â chetris.
Craffu ar y gorwel am feddyginiaethau newydd ar gyfer diabetes. |
|
Amserol Sut mae’r rolau’n hybu darpariaeth amserol o ofal y GIG? |
Gwaith fferyllwyr ymgynghorol yw cyflawni blaenoriaethau polisi iechyd / strategol ar draws sefydliadau. Maent yn arwain prosiectau a rhaglenni cymhleth sydd wedi'u blaenoriaethu yn sgil prosesau cynllunio iechyd y boblogaeth. Maent yn gallu rhagweld a rheoli rhwystrau sy’n llesteirio newid trwy wrando ar eraill, eu hysbrydoli a’u cynorthwyo. Mae fferyllwyr ymgynghorol yn sicrhau’u bod wrth law ar gyfer cymheiriaid a defnyddwyr gwasanaeth trwy gyfrwng amrywiol lwybrau, yn cynnwys rhai digidol. |
Gallu bod yn ymatebol ac arwain eraill, gan allu newid cyfeiriad yn chwim i fanteisio ar gyllid ymchwil. Mae’r partneriaid allweddol yn cynnwys Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd a Dadansoddwyr Data, sy'n darparu gwybodaeth fusnes ar sail data’r boblogaeth i lywio buddsoddiad. |
|
Effeithlon Sut mae’r rolau’n sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau ac yn lleihau gwastraff?
|
Mae hyn yn rhan allweddol o'r rôl. Gall fod gan unigolion gyfrifoldeb ariannol am gyflenwi gwasanaethau neu adnoddau eraill, fel ymdrin â staffio. Mae’r holl rolau’n monitro effeithiolrwydd clinigol yn eu poblogaethau er budd rheoli adnoddau’n well. Maent yn aml yn datblygu achosion busnes ac yn defnyddio deilliannau ymchwil i ddatblygu gofal iechyd. Maen nhw'n darbwyllo pobl rhag gwneud pethau sy’n aneffeithiol. |
Cyfrifoldeb am oruchwylio gwariant hyd at £30-40 miliwn ar feddyginiaethau, ynghyd â’r tîm Cyllid Meddyginiaethau a Thechnoleg, er budd datblygiadau arloesol yn ymwneud â Monitro Glwcos yn Barhaus a chysylltedd TG. |
|
Teg Sut mae’r rolau’n sicrhau bod gan bobl siawns gyfartal o gyflawni’r un deilliant, waeth beth fo'u safle ddaearyddol neu statws economaidd-gymdeithasol? |
Mae gan rai rolau gyfrifoldebau rhanbarthol neu genedlaethol sy'n ysgogi tegwch gofal. Maent yn dadansoddi data iechyd y cyhoedd o fewn byrddau iechyd lleol, gan ymweld ag ardaloedd â deilliannau cadarnhaol i nodi’r hyn sy’n mynd yn dda. Mae’r rhelyw o’u hadnoddau’n targedu’r ardaloedd y mae’n ofynnol gwella eu deilliannau iechyd. |
Cynhelir prosesau samplo priodol i adolygu data ble bo’r deilliannau’n gadarnhaol, gan ddefnyddio adnoddau'n fwy gweithredol i ddeall y rhwystrau a’r effaith ar ofal ble bo’r deilliannau’n wael. Mae'r cymorth proffesiynol a ddarperir yn amrywiol h.y. timau gofal sylfaenol, arbenigwyr ysbyty, llawfeddygon fasgwlaidd a fferylliaeth gymunedol. |
|
Effeithiol I ba raddau y mae’r rolau’n sicrhau bod yr ymarfer ar sail tystiolaeth ac yn gyfredol? |
Mae ardystiad fferyllwyr ymgynghorol yn rhoi sicrwydd bod deiliaid y swyddi’n effeithiol wrth eu gwaith. Caiff eu gwaith ei ategu gan weithwyr proffesiynol eraill a’i archwilio gan y Pwyllgor Cymhwysedd Clinigol. Maent yn meddu ar sgiliau clinigol profedig a gymhwysir ar lefel strategol; gweithredu newid, defnyddio adnoddau, meddwl yn feirniadol, gwneud penderfyniadau, cyfathrebu ac asesu cyflawniad eraill. |
Llywyddu grwpiau clinigol e.e. cardio/reno-metabolig. Mae hyn yn cysylltu fferylliaeth ag arweinwyr systemau o fewn llwybrau clinigol i sicrhau bod y defnydd o feddyginiaethau’n cael ei ragystyried. Perthnasau gwaith gyda chwmnïau fferyllol. |
|
Gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn Sut mae’r rolau’n parchu anghenion a dymuniadau unigolion ac yn ymateb iddynt? |
Mae meini prawf pob swydd a deilliannau cwricwlaidd y rolau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau amlwg i ddeilliannau gofal iechyd unigolion a phoblogaethau. Mae’u gwaith wastad yn canolbwyntio ar unigolion trwy wrando ar adborth wyneb yn wyneb, defnyddio grwpiau elusen ‘profiad bywyd’ ac yn sgil deilliannau gwelliant gwasanaethau. |
Rôl fel prif arbenigwr meddyginiaethol mewn clinig diabetig Math 1 gofal sylfaenol gyda dau ddiabetolegydd ymgynghorol. Sicrhau bod Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yn rhan o ymchwil. |
Gall fferyllwyr ymgynghorol fod yn rhan fwyfwy arwyddocaol o’r datrysiad i heriau presennol y GIG yn y ffyrdd a ganlyn:-
Gallant gymryd cyfrifoldeb am wneud yn siŵr bod arian cyhoeddus, sy’n cael ei wario ar feddyginiaethau, yn sicrhau ffrwyth buddsoddiad o ran gwelliannau iechyd y boblogaeth penodol.
Gallant arwain ymyriadau meddyginiaethol pwysig, uchel eu gwerth o safbwynt cyfreithlondeb clinigol, o fewn y tîm amlbroffesiynol.
Mae swydd-gynlluniau cadarn yn ofynnol ac yn cynnig capasiti i fferyllwyr ymgynghorol arwain newid.
Caiff y swyddi eu cynllunio i ysgwyddo awdurdod a chyfrifoldeb am gyflawni deilliannau iechyd y poblogaethau targed, trwy ddyrannu adnoddau, er enghraifft cyllidebau staff neu feddyginiaethau.
Mae trefniadau gweithio ar y cyd yn golygu bod y rolau’n wynebu ‘tuag allan’ o safbwynt y sefydliadau cynhaliol. Maent yn ysgwyddo cyfrifoldebau am gysoni a chydgysylltu’r defnydd o feddyginiaethau o fewn rhwydweithiau clinigol neu lwybrau gofal, ar draws ffiniau traddodiadol ym maes gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol.
Nodwedd gyffredin ymhlith rolau fferyllwyr ymgynghorol yw datblygu’r adeiladwaith fferylliaeth sylfaenol sy’n hanfodol i ddarparu diogelwch meddyginiaethau a gofal o ansawdd ar draws y system, gweler Ffigur 2.
Mae timau clinigol sydd â phrofiad o gydweithio â fferyllwyr ymgynghorol yn nodi eu bod yn meithrin dull manwl, cyfannol a dadansoddol o drin gofal, sy’n rheoli risgiau, ac yn llunio penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar gleifion.
Cânt eu cydnabod am arwain datblygiad y gweithlu amlbroffesiynol mewn perthynas â gwybodaeth a sgiliau meddyginiaethol, ac am gydlynu ymchwil feddyginiaethol amlbroffesiynol.
Gellir ystyried y manteision o safbwynt sawl carfan: y cyhoedd, y gweithlu amlbroffesiynol, sefydliadau, y system gyfan a gweithwyr fferyllol proffesiynol.
Buddion i’r cyhoedd
Mae rhwydwaith cenedlaethol o fferyllwyr ymgynghorol yn cynnig gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn sgil y canlynol: -
Manteision i’r gweithlu amlbroffesiynol, sefydliadau ac i’r system gyfan
Mae manteision rolau fferyllwyr ymgynghorol i’r tîm amlbroffesiynol, sefydliadau’r GIG a GIG Cymru yn cynnwys: -
Buddion i weithwyr fferyllol proffesiynol
Mae rolau fferyllwyr ymgynghorol yn hyrwyddo lles fferyllwyr trwy gyfrwng swydd-gynlluniau strwythuredig12.
Bydd rhagor o rolau ar lefel ymgynghorol yn gwella cyfraddau atynnu, recriwtio a chadw’r gweithlu fferyllol, yn sgil darparu:
- llwybr gyrfa clinigol hyd at rolau uwch ar gyfer fferyllwyr, gan rychwantu hyfforddiant israddedig, sylfaenol, ôl-gofrestru, uwch ac ymgynghorol;
- gyrfaoedd clinigol uwch fel gwir ddewis amgen yn lle rolau uwch anghlinigol;
- amrywiaeth o swyddi, rhwng Band 8b ac 8d yr Agenda ar gyfer Newid, fel rhan o lwybr datblygiad gyrfa o fewn rôl y swydd yn pontio cyfrifoldebau ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Defnyddiwr Gwasanaeth, Gwasanaeth Meddygaeth Arennol De-orllewin Cymru
Fe ges i drawsblaniad arennol ugain mlynedd yn ôl ac rydw i hefyd yn byw, yn dda iawn, gyda'm diagnosis o ddiabetes a methiant y galon. Dim ond yn ddiweddar iawn y bu imi hyd yn oed ddechrau meddwl am ymddeol o’m swydd fel athro addysg gynradd i wneud pethau eraill, nawr fy mod yn 58.
Rydw i wedi dod yn arbenigwr ar reoli'r holl feddyginiaethau sydd eu hangen arnaf i'm cadw'n iach, yn sgil y cyngor rydw i wedi'i gael dros y blynyddoedd gan y tîm yng Ngwasanaeth Meddygaeth Arennol De-orllewin Cymru.
Y fferyllydd ymgynghorol yw fy nghyswllt cyntaf o ran ymofyn cyngor gan ei fod mor hyddysg ym maes meddyginiaethau. Fe ddysgodd i mi beth i gadw golwg amdano yn fy nghanlyniadau gwaed a sut i addasu fy meddyginiaethau. Rydw i’n deall, rydw i mewn rheolaeth ac yn gallu byw fy mywyd.
Y fferyllydd ymgynghorol sy’n arwain y Gwasanaeth Meddygaeth Arennol. Felly, gan mai ef sydd â gofal cyffredinol am bethau, y mae weithiau’n fy nghyfeirio at aelodau eraill o’r tîm sy’n gallu helpu.
Mae’r fferyllydd ymgynghorol wedi fy nghynorthwyo’n bersonol â phenderfyniadau anodd iawn, fel y penderfyniad i symud yn ôl at feddyginiaeth a achosodd gynt i mi golli fy ngwallt. Ambell dro fe sylwodd y fferyllydd ymgynghorol yn syth fy mod yn dioddef sgil-effeithiau meddyginiaethau wedi’u rhagnodi y tu allan i’r uned arennol, er nad oeddwn i fy hun wedi sylweddoli mai’r rheiny oedd ar fai.
Yn sgil fy nghefndir addysgu, rydw i wedi gallu gweithio gyda'r fferyllydd ymgynghorol i greu adnoddau dysgu a chyfleoedd anhygoel i blant ysgol ynglŷn â’r arennau, meddyginiaethau a gofal iechyd! Yn y gorffennol, roedd angen f’arbenigedd i ar y fferyllydd ymgynghorol hefyd; gofynnwyd i mi roi fy marn ar daflenni y bu iddo’u dylunio ac i rannu fy safbwyntiau ar newidiadau i'r gwasanaeth a fyddai’n effeithio ar y cyhoedd.
Rydw i’n ymddiried yn y fferyllydd ymgynghorol oherwydd gwn ei fod wedi gorfod cyrraedd lefel benodol. Mae hyn yn gosod y safon ac maent yn cael eu parchu gan staff eraill. Dylent gael eu cydnabod am fod yn arbenigwyr yn eu maes ac, o’m profiad i, mae’r gwaith a wnânt er budd cleifion yn hollbwysig.
15.03.24
Wrth ymgysylltu, nododd ein rhanddeiliaid y bydd y GIG yn brin o adnoddau i ddatblygu fferyllwyr ymgynghorol ym mhob maes/ardal a fyddai’n elwa o’u cyfraniad.
Mae angen mwy o gydweithredu a dull strategol mwy tryloyw o ddatblygu rolau i’r dyfodol.
Drwy Gymru gyfan, mae’n rhaid datblygu rolau’n seiliedig ar iechyd y boblogaeth, asesiad o anghenion fferyllol a data ar sail y defnydd o feddyginiaethau.
Gall sefydliadau cydweithredol ddefnyddio contractau anrhydeddus i sefydlu rolau sy'n arfer eu dylanwad ar draws y system. Gall aelodau priodol o staff uwch, nad ydynt o fewn y gwasanaethau fferyllol, weithredu fel rheolwyr llinell ar gyfer fferyllwyr ymgynghorol. Mae hyn yn amodol ar y ffaith bod cysylltiadau gwaith cadarn yn cael eu cynnal ag uwch-arweinwyr fferyllol.
Mae’r teitl ‘fferyllydd ymgynghorol’ wedi’i gymeradwyo gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) i’w ddefnyddio fel y’i diffinnir yn y Cwricwlwm Fferyllwyr Ymgynghorol13:-
Fferyllydd Ymgynghorol: Unigolyn sydd wedi’i ardystio gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol fel un sydd wedi bodloni deilliannau’r cwricwlwm fferyllwyr ymgynghorol, drwy gyfrwng y rhaglen asesu, ac sy’n gweithio ar hyn o bryd fel fferyllydd ymgynghorol cymeradwy.
Mae diogelu’r teitl fferyllydd ymgynghorol yn rhoi sicrwydd gwerthfawr i’r cyhoedd a’r GIG. Mae hyn o fudd i fferyllwyr yn sgil hybu hygrededd proffesiynol mewn cysylltiad â'r teitl.
Gall pobl sy'n cael gofal gan fferyllydd ymgynghorol fod yn ffyddiog ei fod yn ofal diogel ac o ansawdd uchel. Gall gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymofyn cyngor roi eu ffydd yng ngwybodaeth, sgiliau a galluoedd strategol y rhai sy'n arddel y teitl.
Mae Canllawiau’r GIG12, a roddwyd ar waith yn 2020, yn gofyn am broses gyfochrog er budd cymeradwyo pob
Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) yw’r corff aelodaeth proffesiynol ar gyfer fferyllwyr a fferylliaeth. Mae’r RPS yn gweinyddu cymeradwyaeth swyddi ac ardystiadau proffesiynol ar ran y GIG.
Mae cymeradwyaeth swyddi yn safoni lefel, fformat a chwmpas rolau fferyllwyr ymgynghorol ar draws y DU. Mae’r rolau’n mynnu cylch gorchwyl pendant gyda deilliannau mesuradwy ar draws ffiniau sefydliadol. Mae’r swydd-gynlluniau’n hyblyg ond rhaid iddynt glustnodi amser i alluogi gweithio ar draws pum parth
Rhestrir yr holl swyddi cymeradwy yn y Cyfeiriadur Swyddi Fferyllwyr Ymgynghorol14
Dim ond pan fyddant yn cael eu cyflogi mewn rôl gymeradwy, a phan fyddant yn meddu ar Ardystiad Fferyllydd Ymgynghorol yr RPS (neu, os cawsant eu penodi i'w rôl cyn gweithredu Canllawiau'r GIG yn 2020) y caiff swydd-ddeiliaid ddefnyddio'r teitl ‘fferyllydd ymgynghorol’.
Er mwyn ennill ardystiad, rhaid i unigolion argyhoeddi Pwyllgor Cymhwysedd Clinigol bod eu hymarfer yn bodloni lefel mynediad fferyllydd ymgynghorol, fel y’i disgrifir yng Nghwricwlwm Fferyllwyr Ymgynghorol yr RPS1.
Mae rhanddeiliaid yn awyddus i wybod pryd y bydd angen rôl fferyllydd ymgynghorol yn hytrach na rôl Uwch-fferyllydd.
Mae uwch-fferyllwyr yn chwarae rhan greiddiol yn narpariaeth gwasanaethau clinigol amlbroffesiynol, hyfforddiant a goruchwyliaeth o safon.
Dyma enghraifft o rôl uwch-fferyllydd yn seiliedig ar rolau fferyllwyr ysbyty a fferyllwyr meddygaeth deulu cyfredol sy’n gofalu am bobl hŷn yng Nghymru a Lloegr.
Fferyllydd Uwch-ymarfer yw Liam sy’n gofalu am bobl hŷn ym maes gofal sylfaenol mewn clwstwr o feddygfeydd. Gellir dod o hyd i’r gweithwyr hyn mewn meddygfeydd yn:
Ar ddyddiau Mawrth, mae Liam yn cynnal rowndiau ward mewn cartrefi gofal lleol. Mae'n adolygu'r sawl sydd ar lawer o feddyginiaethau i leihau eu siawns o niwed. Mae'n rhagnodi meddyginiaethau ar gyfer pobl ag osteoporosis ac arthritis. Mae myfyrwyr meddygol israddedig, nyrsys practis a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gweithio dan oruchwyliaeth Liam. Mae rhai ohonynt yn dysgu’r grefft o ragnodi.
Ar ddyddiau Iau, mae Liam yn gweithio i dîm iechyd integredig, gofal cymdeithasol a thrydydd sector. Mae'n ymweld â chleifion yn eu cartrefi i adolygu eu meddyginiaethau a phennu’r lefelau o gymorth sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod y meddyginiaethau hyn yn cael eu cymryd yn briodol.
Mae Liam yn traddodi sesiynau addysgu rheolaidd i Gofrestryddion Meddygaeth Deulu ar ddefnyddio meddyginiaethau fel rhan o ofal yr henoed. Mae'n oruchwyliwr dynodedig ar y rhaglen Fferyllwyr Sylfaen, ac mae'n cynnal gweithdai ar gyfer fferyllwyr dan hyfforddiant ynghylch sut mae pobl hŷn yn metaboleiddio cyffuriau. Yn sgil gweithio gyda'r tîm Rheoli Meddyginiaethau lleol, mae’r pwysau ariannol ar y gyllideb feddyginiaethol dan reolaeth dda. Felly, mae Liam yn gweithredu canllaw lleol newydd ar drin deliriwm. Mae Liam yn goruchwylio prosiectau gwella gwasanaeth ac archwilio mewn practisau cyffredinol o fewn y clwstwr. Mae ar hyn o bryd yn cynorthwyo practisau gydag archwiliadau gwrthfiotig fel rhan o'r Cynllun Cymhelliant Rhagnodi a Rheoli Meddyginiaethau, gan ategu’r Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol. Liam yw'r prif fferyllydd o ran gofalu am bobl hŷn yn ei sefydliad. Pan gyfyd rhywbeth newydd ac anghyfarwydd, mae’n cysylltu â chymheiriaid am gyngor a chymorth ad hoc trwy gyfrwng grŵp diddordeb arbennig i fferyllwyr yn yr UKCPA. Mae Liam yn brysur yn ymroi i waith clinigol ac yn poeni bod y galw’n cynyddu heb unrhyw le i ystyried sut y dylid newid y drefn er gwell. Felly, mae'n cyfeirio’r mater at lefel glinigol uwch. |
Rôl arweinyddiaeth glinigol yw rôl y fferyllydd ymgynghorol â’i dylanwad yn pontio’r maes gofal sylfaenol ac eilaidd, gyda chwmpas lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.
Dyma enghraifft o rôl fferyllydd ymgynghorol yn seiliedig ar astudiaeth achos gan Fwrdd Gofal Integredig Leeds a Gorllewin Swydd Efrog.
Dyma Leilani, fferyllydd ymgynghorol ym maes gofal Pobl Hŷn. Amlygwyd yr angen am ddull system gyfan yn sgil y niferoedd cynyddol o godymau, toresgyrn a diwrnodau’n gaeth i’r gwely ymhlith pobl hŷn ledled y rhanbarth. |
|
Bu i’r ysbyty acíwt a’r maes gofal sylfaenol ariannu swydd ar y cyd i hyrwyddo cydweithiad ac i ddarparu dull ‘rheoli iechyd y boblogaeth’ ar draws y rhanbarth. Gan nad yw cylch gorchwyl Leilani yn rhwym wrth sefydliad penodol, gall weithredu oddi allan i unrhyw faterion sefydliadol mewnol a chanolbwyntio ar wella llwybrau gofal fel hybu’r gwasanaeth fferylliaeth a’r gwasanaeth Ysbyty yn y Cartref. Mae rôl y fferyllydd ymgynghorol wedi'i chynllunio i ddylanwadu ar draws ffiniau gofal, ble ceir gwallau meddyginiaethol cyffredin. Hefyd, mae’r rôl i ddylanwadu ar ofal canolraddol. Mae'r rôl yn mynd i'r afael â bwlch, ac mae Leilani’n cymell datblygiad dull strwythuredig o drin materion trosglwyddo gofal sy’n ymwneud â meddyginiaethau. Mae statws y rôl yn galluogi Leilani i fod yn aelod o grwpiau dylanwadol fel y Bartneriaeth Eiddilwch Ranbarthol. Nid oes rhaid i Leilani negodi amser rhydd i fynychu oherwydd mae arweinyddiaeth broffesiynol yn rhan o'i chynllun swydd. Mae ei hardystiadau clinigol fel fferyllydd ymgynghorol yn golygu bod mewnbwn Leilani yn cael ei barchu ar y lefelau clinigol uchaf. Disgwylir i swydd Leilani sicrhau manteision tebyg ar gyfer rolau fferyllwyr ymgynghorol eraill mewn rhanbarthau cyfagos, gan gymell cysondeb ledled y wlad. |
Llai o ail-dderbyniadau, mwy o atgyfeiriadau at fferylliaeth gymunedol a gwell cydweithrediad rhwng gwasanaethau ysbyty, iechyd meddwl, cartrefi gofal, practisau cyffredinol a fferylliaeth gymunedol ar gyfer y defnydd gorau posibl o feddyginiaethau. |
Mae Leilani bellach yn cydweithio â chymheiriaid ar dechnoleg i ddynodi pobl hŷn sydd mewn perygl o wynebu derbyniadau ysbyty heb eu cynllunio. Pwrpas hyn yw cyfeirio timau fferylliaeth at y rhai mwyaf anghenus. Yn sgil y ffaith bod gan bobl hŷn nifer o gydafiacheddau, mae Leilani’n arbenigo mewn llawer o gyflyrau cyffredin. Mae'n treulio diwrnod yr wythnos mewn clinig gofal sylfaenol yn cynnal adolygiadau meddyginiaethol ar gyfer y bobl eiddil oedrannus mwyaf cymhleth. Trwy gyfrwng mewnflwch generig, mae Leilani’n darparu rôl gynghori broffesiynol i dimau clinigol lleol, gan gynnwys pobl fel Liam, gan ymateb i ymholiadau achos cymhleth o fewn 48 awr. Gall Leilani gysylltu ag ystod o ymarferwyr gofal sylfaenol, a’u huwchsgilio, i ofalu am bobl eiddil oedrannus yn eu preswylfeydd arferol:- timau fferylliaeth gofal sylfaenol, metronau cymunedol, meddygon teulu a thimau gofal cymdeithasol. Mae hi'n fentor a hyfforddwr cymwysedig i eraill sy'n datblygu sgiliau uwch-ymarfer ac mae’n cynorthwyo darpar fferyllwyr ymgynghorol. Gellir archebu galwadau Teams gyda Leilani, sy’n hyfforddi gweithwyr proffesiynol mewn perthynas ag achosion y mae ganddynt gyfrifoldeb clinigol amdanynt. Mae Leilani’n ffynhonnell o arbenigedd proffesiynol i’r nifer cynyddol o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol ac mewn practisau cyffredinol, gan leihau'r angen i ymofyn gwasanaeth arbenigwyr ysbyty. Mae'n hyfforddi ac yn goruchwylio ystod o bobl ar draws sefydliadau a disgyblaethau eraill ar sail ‘amlgyffuriaeth’ ac ‘adolygu meddyginiaethau’. Mae Leilani yn cyfrannu at strategaeth a pholisi cenedlaethol ar gyfer yr arbenigedd, gan weithio'n ddiweddar gyda'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Fel rhan o’i chynllun swydd mae Leilani’n ymroi i sesiynau ymchwil glinigol. Mae hi’n gweithio i asesu effaith ‘adolygiadau meddyginiaethau wedi codwm’, dan law fferyllwyr gofal sylfaenol, pan fo parafeddygon yn cyfeirio pobl sydd wedi cael codwm gartref, ond nad oes angen iddynt fynd i'r ysbyty. Mae’r swydd yn ymroi i gontractau anrhydeddus â dwy brifysgol ac yn gweithio gyda phartneriaid i roi canfyddiadau ymchwil ar waith a’u hymgorffori yng nghwricwla ysgolion fferylliaeth, meddygaeth a gwyddorau gofal iechyd. Yn sgil cael “golwg o’r awyr” ar feddyginiaethau ym maes gofal pobl hŷn, ar draws y rhanbarth, mae Leilani mewn sefyllfa dda i lunio cwestiynau ymchwil ac i weithio gyda'r prifysgolion i ddenu buddsoddiad allanol. Mae'n darparu goruchwyliaeth glinigol ar gyfer prosiectau PhD ac mae wedi cyhoeddi canfyddiadau mewn cyfnodolion wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. |
Mae Liam a Leilani yn ymroi i rolau sy'n canolbwyntio ar unigolion, wedi'u gwreiddio yn eu harbenigedd clinigol. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau allweddol rhyngddynt. |
|
Uwch-ymarfer
|
Ymarfer Ymgynghorol
|
O fis Medi 2024, mae 185 o swyddi fferyllwyr ymgynghorol cymeradwy yn y DU. Yn y degawd rhwng 2013 a 2023, dim ond 14 o rolau fferyllwyr ymgynghorol oedd wedi’u datblygu yng Nghymru. Yn fwy diweddar mae’r nifer hwn wedi cynyddu i 18 o swyddi fferyllwyr ymgynghorol yng Nghymru a gymeradwywyd gan RPS.
Lle mae swyddi’n parhau i gael eu datblygu’n organig, fesul sefydliad, gellir colli cyfleoedd i ddarparu gofal iechyd darbodus a chyflwyno risgiau mewn gwasanaethau fferylliaeth graidd gyfagos oherwydd gweithlu fferyllwyr symudol. Gallai dull cenedlaethol mwy strategol fod o fudd i Gymru gyda nifer o rolau rhanbarthol a chenedlaethol bellach wedi’u creu.
Teitl y post |
Cyflogwr |
Cwmpas |
Ariannu |
1 Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol Cymru Gyfan |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Cenedlaethol |
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru |
|
|||
2 Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Lleol |
Bwrdd Iechyd |
|
|||
3 Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Lleol |
Bwrdd Iechyd |
|
|||
4 Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Lleol |
Bwrdd Iechyd |
|
|||
5 Fferyllydd Ymgynghorol Genomeg a Ffarmacogenomeg |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Cenedlaethol |
Llywodraeth Cymru a Addysg a Gwella Iechyd Cymru |
6 Fferyllydd Cymunedol Ymgynghorol - Iechyd Rhywiol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Boots UK |
|
Heb ei ariannu |
|
|||
7 Fferyllydd Ymgynghorol Gofal Aciwt a Diogelwch Meddyginiaethau |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Cenedlaethol |
Caerdydd a'r Fro (cyllid hanesyddol) |
|
|||
8 Fferyllydd Ymgynghorol Iechyd Meddwl Oedolion |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Lleol |
Bwrdd Iechyd |
9 Fferyllydd Ymgynghorol Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapi Uwch |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Cenedlaethol |
Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chaerdydd a'r Fro |
10 Fferyllydd Ymgynghorol Gofal Iechyd Cymunedol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Cenedlaethol |
Caerdydd a'r Fro (cyllid hanesyddol) |
|
|||
11 Fferyllydd Ymgynghorol Clefydau Heintus |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Lleol |
Bwrdd Iechyd |
12 Fferyllydd Ymgynghorol Maeth Perfeddol a Rhiantol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Cenedlaethol |
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a Chaerdydd a'r Fro |
|
|||
13 Fferyllydd Ymgynghorol Iechyd Meddwl |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Bwrdd Iechyd (Is-adran Iechyd Meddwl) |
|
Lleol |
|||
14 Fferyllydd Ymgynghorol Arenneg a Thrawsblannu |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Rhanbarthol |
Rhwydwaith Arennau Cymru (cyllid WHSSC) |
|
|||
15 Fferyllydd Ymgynghorol Pobl Hŷn |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Lleol |
Bwrdd Iechyd Bae Abertawe |
|
|||
16 Fferyllydd Ymgynghorol Oncoleg/Haematoleg Bediatrig |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Rhanbarthol |
Bwrdd Iechyd |
17 Fferyllydd Arennol Ymgynghorol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Rhanbarthol |
Rhwydwaith Arennau Cymru (cyllid WHSSC) |
|
|||
18 Fferyllydd Arennol Ymgynghorol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Rhanbarthol
|
Rhwydwaith Arennau Cymru (cyllid WHSSC) |
Drwy greu rolau fferyllwyr ymgynghorol, bydd sefydliadau’n cyflawni safonau STEEEP4 ac yn gweithio i oresgyn seilos cyllidebol, daearyddol a phroffesiynol, lle mae meddyginiaethau’n rhan bwysig o ofal.
Daeth ein hadolygiad ymchwil i’r casgliad bod rolau fferyllwyr ymgynghorol, lle mae meddyginiaethau’n rhan bwysig o ofal, yn gyson yn darparu gofal mwy diogel, di-dor ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i boblogaethau targed na chynt (cyn yr ymyriad)6,7,8.
Mae dull cyfrifol o ddatblygu’r gweithlu a swyddi’n angenrheidiol er mwyn denu uwch-fferyllwyr i’r meysydd ymarfer clinigol, lle mae swyddi newydd yn cael eu datblygu, er mwyn gwella ansawdd a diogelwch a deilliannau iechyd y cyhoedd.
Mae arweinyddiaeth fferyllwyr ymgynghorol yn gwella deilliannau iechyd ac yn cynnig buddion economaidd y gellir eu hatgynhyrchu mewn unrhyw ardal neu arbenigedd lle: -
mae meddyginiaethau’n rhan bwysig o ddarpariaeth gofal.
Anogir rhanddeiliaid i weithio o fewn eu sefydliadau a chyda sefydliadau partner posibl i nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer rolau fferyllwyr ymgynghorol o fewn eu cynlluniau gweithlu. Gellir sbarduno cynllun gweithredu gyda’r cwestiynau canlynol:-
1 Llywodraeth Cymru. Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth (SEA): ‘Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru’ Ar gael yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2023-09/science-evidence-advice.pdf
2 GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. 2020. Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar gael yma: https://socialcare.wales/cms-assets/documents/Workforce-strategy-ENG-March-2021.pdf
3 Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. 2023. Rhagnodi Cynnydd. Trawsnewid Fferylliaeth Glinigol Ysbyty yng Nghymru ar gyfer Gwell Gofal Cleifion. Ar gael yma: https://www.rpharms.com/hospital-review-wales
4 Llywodraeth Cymru, 2021. Fframwaith Ansawdd a Diogelwch: dysgu a gwella. Ar gael yma: llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-09/quality-and-safety-framework-learning-and-improving_0.pdf
5 Yr Adran Iechyd. 2005 Canllawiau ar gyfer datblygu swyddi fferyllwyr ymgynghorol.
6 Miller R. et al. 2017. Developing a Regional Medicines Optimisation Model for Older People in Care Homes: Refinement and Reproducibility. International Journal of Integrated Care, 17 (5) t1-8. Ar gael yma:
7 Gormley C. et al. 2021. Medicines Optimisation for Respiratory Patients: The Establishment of a New Consultant Respiratory Pharmacist Role in Northern Ireland. Pharmacy 9 (177) t 1-7
8 Gwasanaeth Meddygaeth Arennol. 2023. Gwasanaeth Meddygaeth Arennol De-orllewin Cymru. Cyflwyniad i'r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Fferylliaeth Glinigol yn Ysbytai’r GIG yng Nghymru. Adroddiad Mewnol. Heb ei gyhoeddi.
9 Llywodraeth Cymru. 2018. Cymru Iachach. Ar gael yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-tymor-hir-cymru-iachach-iechyd-a-gofal-cymdeithasol
10 Llywodraeth Cymru. 2021. Fframwaith Clinigol Cenedlaethol: System Iechyd a Gofal sy'n dysgu. Ar gael yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-05/national-clinical-framework-a-learning-health-and-care-system_0.pdf
Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. Cyfeiriadur Swyddi Fferyllwyr Ymgynghorol. Ar gael yma: Cyfeiriadur Swyddi Fferyllwyr Ymgynghorol cymeradwy (rpharms.com)
11 Llywodraeth Cymru. 2023. Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu: mynd i’r afael â heriau gweithlu GIG Cymru. Ar gael yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-gweithlu-cenedlaethol
12 GIG Lloegr, Adran Iechyd Gogledd Iwerddon ac AaGIC. Canllawiau Fferyllwyr Ymgynghorol 2020. Ar gael yma: https://www.hee.nhs.uk/sites/default/files/documents/Consultant%20Pharmacist%20Guidance%20Final%20Jan2020.pdf
13 Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Cwricwlwm Fferyllwyr Ymgynghorol 2020. Ar gael yma: https://www.rpharms.com/Portals/0/Consultant/Open%20Access/RPS%20Consultant%20Pharmacist%20Curriculum%202020_FINAL.pdf?ver=-TmAIYQLYxE5Xh924jA0MA%3D%3D
Mae angen adborth arnom ynghylch a yw'r adnodd yn bodloni anghenion ein cynulleidfa darged, a sut i'w wella - https://forms.office.com/e/h76UdN6s6i
Bydd gwelliannau i'r adnodd yn cael eu gwneud ar sail eich adborth. Mae adborth yn ddienw gydag opsiwn i adael eich manylion os hoffech gael gwybod am newidiadau a wnaed.