Gan weithio ar y cyd â’r rhaglenni Delweddu, Patholeg, Endosgopi a Gwyddor Gofal Iechyd cenedlaethol, rydym wedi datblygu set o gamau gweithredu gweithlu tymor byr i ganolig ar gyfer gwasanaethau diagnosteg yng Nghymru.
Mae’r cynllun gweithlu diagnostig wedi’i greu mewn ymateb i strategaeth adferiad a thrawsnewid diagnostig Cymru sy’n nodi nifer o flaenoriaethau allweddol megis:
Mae’r cynllun yn dwyn ynghyd waith presennol ar draws Rhaglenni Cenedlaethol unigol (Delweddu, Patholeg, Endosgopi, a Gwyddor Gofal Iechyd) yn ogystal â chamau trawsbynciol ychwanegol, fel bod amcanion cyfunol yn cael eu halinio o dan un ymbarél.
Wrth ddatblygu'r cynllun hwn, ein nod oedd adeiladu ar y gwaith sy'n cael ei wneud o fewn meysydd rhaglen ddiagnostig unigol a nodi cyfres o gamau gweithredu sy'n cyd-fynd â'r themâu yn strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
Mae’r cynllun yn nodi 25 o gamau gweithredu tymor byr i ganolig gan gydnabod y bydd cyflymder y rhanbartholi a’r trawsnewid digidol yn effeithio ar wasanaethau diagnostig, felly mae hyblygrwydd yn hollbwysig ar hyn o bryd. Nid cynllun gweithlu hirdymor mo hwn, ond cynllun a luniwyd i ganolbwyntio ar nifer fach o feysydd sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf arwyddocaol ar ddarparu gwasanaethau diagnostig yn y tymor byr.
Bydd y cynllun yn caniatáu dull mwy penodol a theg o fynd i'r afael â'r camau mwyaf trawsnewidiol wrth gynyddu'r cydweithio rhwng AaGIC a'r Rhaglenni Cenedlaethol a lleihau dyblygu ymdrechion.
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch claire.hammond2@wales.nhs.uk
Dogfennau allweddol (Mapio strategaeth a sganio'r Gorwel)