Cafodd y rhaglen hon ei throsglwyddo oddi wrthym ni i Weithrediaeth y GIG ar 1 Ebrill 2024. Maent bellach yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen waith sydd wedi'i hadnewyddu.
Sefydlwyd y rhaglen i gefnogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i gyflawni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwasanaethau iechyd yng Nghymru sicrhau lefelau priodol o staff nyrsio ar draws gwasanaethau a ddarperir ac a gomisiynir. Mae mesurau o'r fath yn galluogi darparu gofal o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn sensitif i gleifion.
Gwnaethom gyfrannu at gyflawni Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan drwy:
Gwnaethpwyd y gwaith hwn ar y cyd â Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau GIG, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid allweddol.
Gallwch barhau i ddilyn cynnydd y rhaglen hon drwy wefan Gweithrediaeth y GIG.