Rydym yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid i ddarparu arweiniad, cynorthwyo a gyrru gwelliant parhaus yn ei flaen.
Rydym yn darparu rhaglen o ddigwyddiadau i gefnogi’r rheini sy’n gweithio ym maes arfarnu meddygol ac ailddilysu. Mae’r rhain yn cynnwys cynadleddau arfarnu rhanbarthol ar gyfer arfarnwyr gofal eilaidd, rhwydweithiau cymorth a’r gynhadledd flynyddol ar sicrhau ansawdd arfarniadau (AQA). Nod y digwyddiad AQA yw sicrhau ansawdd allbynnau’r crynodeb arfarnu ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd ledled Cymru, gan ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant parhaus i arfarnwyr ar yr un pryd.
Anogir yr holl Arfarnwyr i fynychu’r digwyddiadau gyda’r cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr, trafod a rhannu sgiliau ar adeiladu crynodebau a chanlyniadau. Mae’r digwyddiad hwn yn adeiladu ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer arfarnwyr yn eu rôl a hefyd yn cefnogi’r RSU i nodi themâu a gwelliannau ar gyfer ansawdd crynodebau arfarnu.