Rydym yn grŵp o preswylwyr o amrediad o arbenigeddau a phrofiad meddygol a deintyddol, sy'n gweithio gyda deoniaeth feddygol AaGIC i hyrwyddo safbwyntiau preswylwyr o fewn y ddeoniaeth. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod prosiectau diddorol, meysydd i'w datblygu ac i sicrhau bod hyfforddiant o ansawdd uchel a lles preswylwyr yn parhau yn ffocws craidd gan AaGIC.
Bod yr holl preswylwyr yng Nghymru yn cael hyfforddiant o’r safon uchaf ac yn mwynhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Ein cenhadaeth yw dylanwadu ar ddatblygu a gwella rhaglenni preswyl meddygol a deintyddol o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Credwn y dylid trin pob hyfforddai yn gyfartal ac felly, dylai pob hyfforddai deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Byddwn yn rhyngweithio â preswylwyr o bob arbenigedd a gradd hyfforddi gyda'r bwriad o ennill safbwyntiau preswylwyr i nodi cyfleoedd ar gyfer newid.
Ewch i'n tudalen SharePoint isod am ragor o wybodaeth a dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf:
Fforwm Meddygon Preswyl Cymru Gyfan