O 17 Mawrth 2020 ymlaen, oherwydd y sefyllfa bresennol o ran Covid-19, bydd dyddiad ailddilysu meddygon sydd i fod i ailddilysu cyn diwedd mis Medi yn cael ei ohirio am flwyddyn. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac yn gohirio ymhellach yn ôl yr angen.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cydnabod mai ein hyfforddeion yw ein hased mwyaf. Rydym yn gwerthfawrogi eich barn a’ch awgrymiadau ar gyfer gwella’r rhaglenni a’r amgylchedd hyfforddi yn fawr iawn. Mae sawl cyfle ledled Cymru i chi gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i chi a’ch cydweithwyr.
Ar 8 Mawrth 2018 fe wnaethom gynnal Digwyddiad Ymgysylltu â Hyfforddeion hynod lwyddiannus a oedd yn gyfle i wneud y canlynol:
Yn ystod y diwrnod hwn, fe wnaethom hefyd gynnal dwy sesiwn grŵp ffocws gyda hyfforddeion yn edrych ar yr hyn roeddent yn ei werthfawrogi am eu hyfforddiant, pa welliannau y gellid eu gwneud a pha heriau y gallent eu hwynebu a sut gellid mynd i’r afael â’r rhain.
Mae adborth o’r grwpiau ffocws hyn yn cael ei drafod ar hyn o bryd gyda chydweithwyr ar draws AaGIC a Darparwyr Addysg i ddatblygu cynllun gweithredu. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu yma yn fuan.
Cliciwch yma i gael polisïau a gweithdrefnau hyfforddeion.