Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad timau cyfadrannau

Datbygiad proffesiynol

Mae AaGIC wedi ymrwymo i hyfforddiant a datblygiad parhaus Timau Cyfadrannau ar draws GIG Cymru.

Bydd gweithgareddau datblygiad proffesiynol sydd wedi'u targedu yn helpu i ddatblygu sgiliau penodol, cefnogi meysydd penodol o gyfrifoldeb a rhoi cyfleoedd i unigolion rwydweithio a chydweithio ag aelodau o dimau eu Cyfadrannau eu hunain a Thimau eraill er mwyn rhannu arfer da a dulliau o gefnogi addysg a hyfforddiant meddygol.

 

Cynhadledd Timau Cyfadran / Arweinwyr Arbenigedd

Mae AaGIC yn cynnal Cynhadledd flynyddol Timau Cyfadran / Arweinwyr Arbenigedd ar 11 Mehefin 2024 yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod.

Mae'r digwyddiad yn agored i bob aelod o Dimau Cyfadran y Bwrdd Iechyd / Ymddiriedolaeth yn ogystal â Phenaethiaid Ysgolion Arbenigol a Chyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddiant. Mae'n ofynnol i bob cynrychiolydd gofrestru ar-lein yma.

Rhaglen y Gynhadledd yn dod yn fuan.

 

Adnoddau datblygu eraill

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn cynnig detholiad o ‘Ganllawiau Sut i...’ ar amrywiaeth o faterion Addysg Feddygol. Mae’r canllawiau am ddim a’r bwriad yw cynnig crynodeb cynhwysfawr o amrywiaeth o bynciau addysgol mewn fformat sy’n hawdd i’w ddefnyddio.