Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleoedd datblygiad proffesiynol i hyfforddwyr

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad hyfforddwyr ar draws GIG Cymru trwy ddarparu cyfleoedd datblygu sy'n ymwneud â'u rolau addysgol a hyfforddi.

Mae'r tudalennau gwe hyn yn darparu dolenni i adnoddau datblygu ar-lein yn ogystal â chyfeirio a dolenni i ffynonellau DPP posibl eraill. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth am gymwysterau mwy ffurfiol y gellir eu dilyn mewn addysg a hyfforddiant.

Efallai y bydd hyfforddwyr hefyd yn dymuno cysylltu â’u Canolfan Addysg neu Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant a fydd yn gallu darparu gwybodaeth am gyfleoedd datblygu sydd ar gael yn lleol o fewn Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau a / neu arbenigeddau.