Weithiau bydd achlysuron lle nad yw unigolyn yn dymuno, neu na all bellach, barhau yn ei rôl(au) fel hyfforddwr (e.e. ddim eisiau bod yn hyfforddwr mwyach, gadael Cymru, ymddeol etc).
Gall unigolion ddiwygio eu cofnodion hyfforddwr eu hunain ar system Porth Cytundeb Hyfforddwyr (TAG) i adlewyrchu'n gywir y rolau y maen nhw’n eu cyflawni, cyhyd â'u bod yn aros mewn o leiaf un o'r pedair rôl gydnabyddedig.
Pan fydd unigolion yn dymuno cael eu tynnu o bob rôl(au) hyfforddi, ac felly’n rhoi’r gorau i’w statws fel hyfforddwr, bydd angen i’w cofnod ar system TAG gael ei yn wneud yn anweithredol.
Dylai hyfforddwyr hysbysu’r Trefnydd Addysg (h.y. AaGIC neu’r Ysgol Feddygol berthnasol yng Nghymru) neu eu Canolfan Addysg leol yn ysgrifenedig, cyn gynted â phosibl, os ydynt angen i’w cofnod fod yn anactif a nodi’r rheswm dros adael rôl(au) yr hyfforddwr. Bydd y cais wedyn yn cael ei weithredu a bydd y Trefnydd Addysg yn hysbysu’r GMC y dylid dileu statws yr hyfforddwr o gofnod yr unigolyn ar ei Restr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig. Ni fydd unigolion bellach yn cael eu cydnabod fel hyfforddwr gan y GMC ac ni fyddant yn gallu gweithredu yn unrhyw un o'r pedair rôl hyfforddwr cydnabyddedig.