Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynhadledd Rhannu Hyfforddiant Rhagoriaeth mewn Addysg Amlbroffesiynol (STEME) AaGIC yn rhoi cyfle i hyfforddwyr sy’n gweithio yn y gwahanol broffesiynau ar draws gofal iechyd yng Nghymru ddod at ei gilydd mewn amgylchedd dysgu amlbroffesiynol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i’w cefnogi i gyflawni eu rolau hyfforddwyr yn effeithiol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i rwydweithio a datblygu cymunedau ymarfer.

 

Cynhelir Cynhadledd STEME 2025 ddydd Mawrth 23 Medi 2025 yn Stadiwm Abertawe.com (rhaid cofrestru pob mynychwr ymlaen llaw). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe'r Gynhadledd.