Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddod yn hyfforddwr

Er mwyn ymgymryd ag un o'r pedair rôl hyfforddi sy'n gofyn am gydnabyddiaeth gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), rhaid i unigolion yng Nghymru gofrestru gyda Chytundeb Hyfforddwyr Meddygol Cymru Gyfan (Gofal Eilaidd ac Addysg Israddedig).

Cyn cofrestru ar gyfer y cytundeb, dylai unigolion:

  • gwirio os ydyn nhw’n gymwys i ymgymryd â’r rôl hyfforddi benodol
  • cael sgwrs gyda’u cyfarwyddwr clinigol/arweinydd arbenigol i ddarganfod y cyfleoedd yn eu hardal a'u harbenigedd ar gyfer dod yn hyfforddwr. Dim ond unigolion sy'n disgwyl bod yn hyfforddwyr gweithredol o fewn amserlen resymol ac sy'n dymuno gwneud eu hunain yn hyfforddwyr proffesiynol a gweithio i fodloni'r gofynion a gynhwysir yn y cytundeb ddylai gofrestru ar gyfer y cytundeb.

Unwaith bydd unigolyn wedi dod i’r casgliad ei fod yn gymwys, ac yn wir, angen dod yn hyfforddwr, rhaid iddo lofnodi'r Chytundeb Hyfforddwyr Meddygol Cymru Gyfan (Gofal Eilaidd ac Addysg Israddedig).

TMae’r cytundeb ar gael ar system ar-lein Porth Cytundeb Hyfforddwyr (TAG) sydd hefyd â chofnod o'r holl hyfforddwyr cydnabyddedig yng Nghymru. Dylai unigolion gysylltu â’u canolfan addysg leol neu drefnydd addysg i ofyn am ddolen i’r system TAG a manylion am sut i gofrestru.

Unwaith y bydd unigolion wedi creu cyfrif yn TAG bydd angen iddyn nhw nodi eu gwybodaeth bersonol i greu cofnod hyfforddi a datgan pa rolau'r hyfforddi y maen nhw’n cofrestru ar eu cyfer. Yna cynhyrchir e-gytundeb o fewn y system y bydd gofyn iddyn nhw ei lofnodi. Bydd y cytundeb yn aros yn y system ond gellir ei lawrlwytho fel PDF os oes angen (e.e. i'w uwchlwytho i'r System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) ar gyfer Arfarniad GIG). Dylai unigolion gymryd gofal i sicrhau cywirdeb wrth roi eu manylion ar y system TAG gan y bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhoi i'r GMC er mwyn argymell unigolion i'w cydnabod yn ffurfiol fel hyfforddwyr ac i'w statws fel hyfforddwyr gael ei adlewyrchu ar restr y GMC o ymarferwyr meddygol cofrestredig.