Yn dilyn gweithredu’r Cytundeb Goruchwyliaeth Addysgol yn llwyddiannus yn 2013 a’r peilot o’r Cytundeb Goruchwyliaeth Glinigol Penodol yn 2016, fe wnaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ddatblygu ar y cyd Cytundeb Hyfforddwyr Meddygol (Gofal Eilaidd ac Addysg Is-raddedig) i Gymru, gan ymgorffori pob un o’r pedair rôl hyfforddi sy’n amodol ar gydnabyddiaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).
Cyflwynwyd y cytundeb ar draws Cymru ym mis Tachwedd 2018. Mae ymgorffori pob un o’r pedair rôl mewn un cytundeb yn cynnig dull symlach a chyson o reoli Cydnabyddiaeth Hyfforddwyr a chefnogi gofal eilaidd a hyfforddwyr israddedig yng Nghymru ac yn galluogi unigolion i symud yn ‘hyblyg’ rhwng y rolau hyfforddi.
Mae’r cytundeb rhwng hyfforddwr cydnabyddedig, Darparwr Addysg Lleol (DALl), a Threfnydd Addysg (AaGIC yw’r Trefnwyr Addysg yng Nghymru a/neu Ysgolion Meddygol Prifysgol Caerdydd neu Abertawe) a dyma'r mecanwaith y mae'r Trefnwyr Addysg yng Nghymru yn ei ddefnyddio i nodi ac argymell unigolion i'w cydnabod yn ffurfiol gan y GMC.
Mae’r cytundeb yn elfen allweddol o ddull Cymru o gydnabod hyfforddwyr yn ffurfiol (fel y diffinnir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol). Mae’n dangos ymrwymiad y llofnodwyr i rôl yr hyfforddwr ac i ddarpariaeth addysg a hyfforddiant meddygol o ansawdd uchel ac yn nodi'r mecanweithiau i gefnogi hyn drwy ddiffinio rolau a chyfrifoldebau pob parti.
Mae llofnodi'r cytundeb hwn a bodloni ei ofynion yn rhoi cydnabyddiaeth fel hyfforddwr yng Nghymru ar gyfer y meddygon hynny sy’n dal mwy nag un o’r pedwar rôl hyfforddi.
Gweler gopi o gytundeb hyfforddwyr meddygol Cymru gyfan. Er gwybodaeth yn unig yw’r fersiwn hon ac ni ddylid ei llofnodi. Rhaid cofrestru i’r Cytundeb drwy system Porth Cytundeb hyfforddwyr (TAG)
Mae'n ofynnol i hyfforddwyr yng Nghymru sy'n ymgymryd ag un neu fwy o'r rolau hyfforddi y mae angen i'r GMC eu cydnabod drwy'r broses cydnabod hyfforddwyr lofnodi'r cytundeb. Mae’n cynnwys hyfforddwyr is-raddedig a hyfforddwyr meddygol ôl-raddedig ar gyfer hyfforddeion sylfaen, craidd ac uwch (gan gynnwys hyfforddiant llai nag amser llawn). Am fwy o wybodaeth ar sut i gofrestru, gweler sut i ddod yn hyfforddwr.
Yn gyffredinol, nid yw'r cytundeb yn berthnasol i hyfforddwyr mewn ymarfer cyffredinol neu ymarfer deintyddol. Serch hynny, yr eithriad yw'r meddygon teulu hynny sy'n gweithredu fel hyfforddwyr yng nghyd-destun hyfforddiant mewn amgylchedd gofal eilaidd neu fyfyrwyr meddygol is-raddedig (ac nad ydyn nhw eisoes yn amodol ar gymeradwyaeth ar wahân fel Hyfforddwyr Meddygon Teulu gan y GMC o dan y Ddeddf Feddygol). Bydd angen i’r unigolion hyn gofrestru i’r cytundeb.
Mwy o wybodaeth am fuddion y cytundeb.