Er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi priodol, rhaid i hyfforddwyr gadw gwybodaeth gyfredol am gwricwla, portffolios dysgu a datblygiadau allweddol mewn addysg a hyfforddiant.
Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yn bodloni gofynion yr meddyg preswyl, dylai hyfforddwyr ymgyfarwyddo â'u hanghenion hyfforddi ar ddechrau eu swydd ac adolygu'r rhain gyda'r meddyg preswyl o bryd i'w gilydd.
Byddai AaGIC yn annog hyfforddwyr i weithio ar y cyd â'u cydweithwyr i rannu gwybodaeth ac arfer da wrth nodi a chynllunio cyfleoedd dysgu ac i ddatblygu sesiynau a modiwlau addysgu. Cofiwch fod llawer o gyfleoedd addysgu ad hoc yn codi fel rhan o gyflenwi gwasanaeth, felly ceisiwch wneud y gorau o'r rhain lle bynnag y bo modd.
Gall efelychu ddarparu amgylchedd diogel i unigolion a thimau ddatblygu a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu hymddygiad a'u hagweddau. Gweler tudalennau gwe Efelychu AaGIC am ragor o wybodaeth ac adnoddau.