Neidio i'r prif gynnwy

Maes Fframwaith 1: Sicrhau gofal diogel ac effeithiol i gleifion drwy hyfforddiant

Drwy lofnodi'r Cytundeb Hyfforddwr Meddygol (Gofal Eilaidd ac Addysg Israddedig)  mae hyfforddwyr yn ymrwymo i sicrhau y darperir addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, gan arwain yn y pen draw at well diogelwch cleifion a gwell ansawdd gofal cleifion. Wrth wneud hynny, rhaid i hyfforddwyr sicrhau goruchwyliaeth sy'n briodol i gymhwysedd a phrofiad eu hyffordd(iaid). Dylent hefyd gyfrannu at gyflwyno cyfnod sefydlu priodol ar gyfer meddygon preswyl newydd er mwyn cefnogi trosglwyddiad esmwyth i'w hamgylchedd gwaith newydd.