Neidio i'r prif gynnwy

Maes Fframwaith 2: Sefydlu a chynnal amgylchedd ar gyfer dysgu

Mae gan hyfforddwyr rôl ganolog wrth gyfrannu at greu diwylliant dysgu cefnogol ac amgylchedd addysgol lle mae agweddau ac ymddygiadau priodol yn cael eu modelu a'u harddangos yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae'n ofynnol i hyfforddwyr ymgysylltu â phrosesau rheoli ansawdd i sicrhau bod safonau ac amgylcheddau hyfforddi priodol yn cael eu cynnal a'u gwella. Fel rhan o hyn, fe'u hanogir yn gryf i gwblhau Arolwg Hyfforddwyr cenedlaethol blynyddol y GMC i helpu i nodi meysydd y gallai fod angen eu gwella fel y gellir eu cefnogi'n well yn eu rôl(au).

Dylai hyfforddwyr hefyd hybu diwylliant lle mae meddygon preswyl yn teimlo eu bod yn gallu siarad yn rhydd ac yn ddiogel i godi pryderon a dylent sicrhau eu bod yn ymwybodol o brosesau lleol ac AaGIC ar gyfer gwneud hynny. Gweler Codi pryderon a siarad yn ddiogel  am ganllawiau AaGIC ar meddygon preswyl yn codi pryderon.