Mae Dawn yn eirioli’n angerddol dros wasanaethau cyhoeddus a’r cyfleoedd sylweddol sydd i’w hennill ar gyfer staff, cleifion a darparu gwasanaethau gyda’r uchelgais a nodwyd gan AaGIC.
Gyda chefndir arwain cadarn yn ymestyn dros ddegawd ar draws y trydydd sector, sefydliadau dielw ac elusennol, mae Dawn wedi cyflawni rolau amrywiol gan gynnwys rolau Gweithredol, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd. Ar hyn o bryd mae Dawn yn Is-Gadeirydd ym Mrynawel, sefydliad elusennol sy'n ymroddedig i adferiad alcohol a dibyniaeth gyda'i rôl yn allweddol wrth lunio cyfeiriad strategol yr elusen.
Mae Dawn hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Tai Hafod, Gofal a Chymorth, lle mae ei harweinyddiaeth mewn mentrau newid pontio wedi gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn sylweddol. Ar hyn o bryd hi yw’r r unigolyn cyfrifol yn Concepta Plc .Mae hi wedi datblygu’r fframwaith llywodraethu ac wedi goruchwylio’r gweithrediadau gofal iechyd, gan sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol, rheoli ansawdd, rhagoriaeth cleientiaid ac arweinyddiaeth. Mae Dawn wedi hyrwyddo mentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth a lles yn y sefydliad ac wedi arwain y gwaith o sefydlu clinig arbenigol ar gyfer y menopos.
Mae naratif proffesiynol Dawn hefyd yn cynnwys cyfnod fel Cadeirydd Tâl, Penodiadau a Llywodraethu ar gyfer Hafod, rôl y mae hi wedi rhoi’r gorau iddi yn ddiweddar ar ôl dylanwadu’n sylweddol ar strategaethau ar gyfer llywodraethu, aelodaeth bwrdd, pobl, a phenderfyniadau strategol.
Cyn hyn, roedd gan Dawn amrywiaeth o uwch rolau, gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredu, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Phennaeth Gweithrediadau a Gwasanaethau Cleientiaid. Ar draws y swyddi hyn, roedd hi’n rhoi’r cwsmer wrth wraidd strategaeth a gweithrediadau, gan arddangos ei hymroddiad i greu amgylcheddau cynhwysol a thryloyw.