Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am ddod yn nyrs neu fydwraig, gwybodaeth ar gyfer nyrsys a bydwragedd presennol, ac mae'n tynnu sylw at ein gwaith yn y proffesiynau hyn. 

Nyrsio yw'r gweithlu proffesiynol mwyaf yn y GIG. Mae nyrsio wedi’i rannu’n bedair adran; nyrsio plant, nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl a nyrsio anabledd dysgu. Mae bydwragedd yn gofalu am fenywod, babanod newydd-anedig a'u teuluoedd o gyn-feichiogrwydd, beichiogrwydd, esgor a genedigaeth, ôl-enedigaeth, ac wythnosau cynnar bywyd babanod newydd-anedig.