Ni yw comisiynydd addysg gweithlu anfeddygol GIG Cymru.
Er mwyn sicrhau cyflenwad cyson o weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig ar gyfer GIG Cymru, rydym yn trefnu addysg a hyfforddiant cyn-gofrestru ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd.
Rydym hefyd yn cefnogi addysg ôl-gofrestru ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi drwy gydol eu gyrfa.
Gweithlu - AaGIC yn cael eu defnyddio i sefydlu faint o lefydd hyfforddi sydd eu hangen bob blwyddyn i ddiwallu anghenion pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd anfeddygol yng Nghymru. Mae hyn yn cael ei gyflwyno drwy Cynllun Addysg a Hyfforddiant (ETP) - AaGIC i Lywodraeth Cymru bob mis Tachwedd. Maen nhw'n cymeradwyo niferoedd hyfforddi terfynol a chyllideb fel arfer tua mis Chwefror ar gyfer derbyniadau mis Medi.
Mae'n cymryd rhwng dwy a saith mlynedd i hyfforddi gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i weithio yn GIG Cymru.
Mae'r gyllideb oddeutu £125 miliwn. Mae tua hanner yn ariannu bwrsariaethau, cyflogau, treuliau a lwfansau i fyfyrwyr. Mae'r gyllideb sy'n weddill yn ariannu cyrsiau'r brifysgol. Rydym yn negodi ffi fesul myfyriwr ar bob rhaglen. Cynhelir cyfarfodydd contract drwy gydol y flwyddyn i edrych ar sut mae'r rhaglenni'n perfformio.
Mae manteision ein gwaith comisiynu a chontract yn cynnwys: