Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSWs)

 

 

Sut i ddod yn weithiwr cymorth gofal iechyd

Bydd Swyddi trac yn hysbysebu rolau gweithwyr cymorth gofal iechyd cyn gynted ag y bo modd.

I wneud cais am rôl gweithiwr cymorth gofal iechyd, bydd angen bod gennych:

  • Arholiadau TGAU neu dystiolaeth o safon addysg dda, neu gymhwyster galwedigaethol lefel 2 (neu fod yn barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn) ar gyfer swydd band 2.
  • Lefel A neu dystiolaeth o safon addysg  dda, neu gymhwyster galwedigaethol lefel 3 neu gyfwerth. Dylai hyn gynnwys sgiliau llythrennedd a rhifedd a phrofiad perthnasol ar gyfer y rôl (neu fod yn barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn) ar gyfer swydd band 3.

Gallwch hefyd archwilio'r 350+ o rolau eraill i geisio amdanynt yn GIG Cymru.

Sefydlu

Fel gweithiwr cymorth gofal iechyd sy'n ymuno ag amgylchedd clinigol, byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gymhwyster Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 achrededig Cymru gyfan ar gyfer naill ai nyrsio neu graidd. Mae hyn yn cynnwys sefydlu lleol. Os ydych eisoes yn meddu ar y cymhwyster hwn, ni fydd yn rhaid i chi ailadrodd hyn er y bydd angen sefydlu lleol o hyd. 

Fel gweithiwr cymorth gofal iechyd sy'n ymuno â lleoliad cymunedol neu ofal cymdeithasol, mae sesiwn sefydlu ar y cyd ar gael sy'n cysylltu â'r fframwaith sefydlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Symud ymlaen ar ôl i chi gael eich cyflogi

Unwaith y byddwch yn y rôl, bydd modd symud ymlaen trwy gyflawni un o'r cymwysterau canlynol:

Mae yna hefyd nifer o lwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd trwy gyfleoedd dysgu'n seiliedig ar waith (WBL) . Er enghraifft:

 

Sut mae rôl y gweithiwr cymorth gofal iechyd wedi datblygu?  

Mae’r fframwaith gyrfa ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd yn nodi'r sgiliau a'r datblygiad gyrfa ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd yn GIG Cymru. Mae'n cynorthwyo rhagoriaeth mewn gofal iechyd drwy ddatblygu llwybrau dysgu, gan roi gwybodaeth a sgiliau sylfaenol i ymarfer yn ddiogel. Mae'n ategu datblygiadau’r presennol ac yn y dyfodol trwy safoni rôl y gweithiwr cymorth gofal iechyd i ddarparu gwybodaeth a sgiliau sy'n sail i sicrhau ymarfer diogel. 

Mae’n cael ei ategu gan strategaeth y GIG ar gyfer gweithlu hyblyg a chynaliadwy ac mae llinell amser ei ddatblygiad ar gael yn ein ffeithlun cymorth nyrsio’n y gweithlu.

 

Gwybodaeth bellach ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd presennol
 
Gwybodaeth y mae gweithwyr cymorth gofal iechyd eraill yn edrych arni: