Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant uwch seiciatreg fforensig

Mae hon yn rhaglen hyfforddi tair blynedd mewn seiciatreg fforensig, a bydd ei chwblhau’n galluogi’r hyfforddeion llwyddiannus i gyflawni Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) mewn Seiciatreg Fforensig.

Mae’r rhaglen hyfforddi wedi’i lleoli yng Nghlinig Caswell, Pen-y-bont ar Ogwr, Uned Diogelwch Canolig 60 gwely sy’n gwasanaethu De Cymru. Mae’r clinig yn darparu gwasanaeth cleifion mewnol ar gyfer troseddwyr ag anhwylderau meddyliol, yn ogystal â chynnig ymgynghoriadau a chyngor i asiantaethau eraill cysylltiedig. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys pum ward, gan gynnwys un ward i fenywod yn unig.

Mae hyfforddeion ar y cynllun wedi’u lleoli yng Nghlinig Caswell yn bennaf, a byddant fel arfer yn cylchdroi drwy dri lleoliad o flwyddyn yr un, gyda phob un o dan oruchwyliaeth gwahanol Seiciatrydd Fforensig Ymgynghorol. Hefyd, mae hyfforddeion yn cael hyfforddiant diogelwch uchel drwy leoliad chwe wythnos, ac mae’r cynllun hefyd yn ymgorffori lleoliad yn y gwasanaeth diogelwch isel yn Nhaith Newydd, Ysbyty Glanrhyd. Mae’r ymrwymiad ar-alwad yn un mewn deg ac yn ddibreswyl.

Disgwylir i hyfforddeion gymryd clinigau yn y carchardai lleol, ac mae cyfleoedd i gael lleoliadau diddordeb arbenigol mewn amrywiaeth o leoliadau eraill yn Ne Cymru. Mae’r cynllun hyfforddi’n mwynhau cysylltiadau academaidd agos â Phrifysgol Caerdydd sy’n cynnig cyfleoedd ymchwil. Mae cyfleoedd hefyd i ddilyn rhaglenni gradd ôl-raddedig yn ystod cyfnod yr Hyfforddiant Arbenigol Uwch, mewn Cyfraith Iechyd Meddwl, Addysg Feddygol, Troseddeg neu feysydd cysylltiedig eraill.

Disgwylir i hyfforddeion gynnal asesiadau risg ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, yn ogystal ag asesiadau yn nalfeydd yr heddlu, ac i baratoi adroddiadau ar gyfer Gwrandawiadau Rheolwyr a Thribiwnlysoedd Adolygu Iechyd Meddwl. Mae cyfleoedd hefyd i ennill profiad o baratoi adroddiadau llys o dan oruchwyliaeth, a darperir hyfforddiant meddygol-gyfreithiol cysylltiedig. Disgwylir i hyfforddeion fynychu’r Rhaglen Academaidd Dydd Llun reolaidd sydd fel arfer yn cynnwys cyflwyniadau achos, clybiau cyfnodolion a chynadleddau achos a adolygir gan gymheiriaid, yn ychwanegol at sesiynau goruchwylio seiliedig ar grwpiau (‘Ballint’). Mae hyfforddeion yn cymryd rhan yn y gwaith. Mae cyfle i hyfforddeion hefyd addysgu staff meddygol iau, yn ogystal â disgyblaethau eraill, i wella eu sgiliau addysgu.

Cysylltiadau

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi, Dr Tom Wynne.