Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd fferylliaeth

Mae’r tîm fferylliaeth yn hollbwysig o ran darparu gofal iechyd diogel ac effeithiol ar draws GIG Cymru.

Mae'n cynnwys llawer o rolau gwahanol ac amrywiol sydd i gyd yn sicrhau bod pobl yn cadw'n iach trwy ddefnyddio'r meddyginiaethau cywir yn ddiogel, ar yr amser iawn, ac yn y ffordd gywir. 

Mae pob aelod o'r tîm yn gweithio ar y cyd o fewn timau amlddisgyblaethol.

Mae gweithwyr fferyllol proffesiynol hefyd yn arwain datblygiadau mewn ansawdd, llywodraethu, a datblygu’r gweithlu, gan sicrhau gwasanaethau gofal iechyd cynaliadwy.

 

Rolau yn y tîm fferylliaeth
 
Ble mae’r tîm fferylliaeth yn gweithio 

Mae yna lawer o wahanol gyfleoedd gyrfa ar draws lleoliadau amrywiol o fewn GIG Cymru a thu hwnt, gan gynnwys:

 

P’un a ydych yn helpu cleifion i reoli eu meddyginiaethau, yn cefnogi ffyrdd iachach o fyw, neu’n sicrhau bod gwasanaethau fferyllol yn rhedeg yn esmwyth, mae pob rôl yn y tîm fferylliaeth yn hanfodol.

Efallai mai chi yw'r person cyntaf i gael cyngor iechyd, yr arbenigwr sy'n sicrhau bod meddyginiaethau'n ddiogel ac effeithiol, neu'r wyneb cyfeillgar sy'n helpu pobl i deimlo'n well. 

Ymunwch â’r gweithlu fferylliaeth a helpwch i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl!