Neidio i'r prif gynnwy

Llwybrau Dysgu

Dysgu seiliedig ar Waith (WBL)

Yn darparu cyfleoedd strwythuredig i holl staff GIG Cymru ar gyfer datblygu sgiliau a gwybodaeth yn y gweithle. Cyflawnir Dysgu Seiliedig ar Waith trwy ddysgu achrededig a dysgu heb ei achredu a chaiff ei oruchwylio yn y gweithle.

Bydd y dysgu achrededig yn rhoi tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol i'r dysgwr. Mae dysgu anachrededig yn cael ei ddatblygu gan gwmni heb gymeradwyaeth yn erbyn safonau rheoleiddiedig.

Mae Cyfleoedd Dysgu Seiliedig ar Waith Achrededig ar gael yma: Cyfleoedd Dysgu Seiliedig ar Waith.


Tregyrfa

Pentref rhithwir yw hwn i helpu i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael o fewn Iechyd a Gofal i alluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau cyflogaeth gwybodus. Gyda dros 350 o rolau ar wahanol lefelau ar gael, mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn darparu gwybodaeth a manylion am y digwyddiadau sydd i ddod. Croeso i Dregyrfa | Tregyrfa (heiw.cymru)  

 

Dysgu Seiliedig ar Waith Clinigol Achrededig

Dolenni at Gymwysterau Iechyd y GIG:

Dolenni at Gymwysterau Iechyd a Chymdeithasol

Dolenni at Gymwysterau Gofal Plant

Dolenni at Gymwysterau Gwyddor Gofal Iechyd

 

Dysgu Seiliedig ar Waith Achrededig nad yw'n Glinigol

Mae'r rhain yn gyrsiau amrywiol, a gellir dod o hyd i ragor o fanylion trwy gysylltu â'r adran Addysg a Hyfforddiant o fewn pob Bwrdd Iechyd.