Neidio i'r prif gynnwy

Diploma Lefel 7 mewn Ffotograffiaeth Glinigol

Strwythur y cymhwyster

Mae'r cymhwyster yn cynnwys 11 uned orfodol, cyfanswm o 135 credyd. Bydd angen i ddysgwyr gyflawni'r holl gredydau ar gyfer pob uned i ennill y cymhwyster. Yr unedau yw:

 Teitl yr uned

Rhif Adnabod Uned Agored Cymru

Ffotograffiaeth Glinigol yn y GIG

CDP309

Hanfodion Ffotograffiaeth Glinigol

CDP310

Caniatâd ar gyfer Ffotograffiaeth Glinigol

CDP304

Llif Gwaith Ffotograffiaeth Glinigol

CDP305

Hanfodion Anatomeg y Corff Dynol ar gyfer Ffotograffiaeth Glinigol

CDP294

Cydnabod a Tynnu Llun o Gyflyrau Meddygol

CDP292

Practis Ffotograffiaeth Glinigol sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

CDP291

Ffotograffiaeth Glinigol Gymhwysol: Technolegau a Thechnegau Delweddu

CDP289

Dyletswydd Gofal mewn Ymarfer Ffotograffiaeth Glinigol

CDP297

Ymholiad Beirniadol mewn Ffotograffiaeth Glinigol

CDP301

Datblygiad Proffesiynol a Gwella Gwasanaeth mewn Ffotograffiaeth Glinigol

CDP299

 

Cyflwyno’r cymhwyster

Bydd gweithio fel Ffotograffydd Clinigol dan Hyfforddiant mewn adran darlunio meddygol yn rhoi cyfle i'r dysgwyr gael hyfforddiant yn y swydd ac i'w cymwyseddau gael eu hasesu yn y lleoliad clinigol. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn profiadau dysgu ar-lein sy'n cynnwys sesiynau cydamserol gyda Thîm Addysg Ffotograffiaeth Glinigol AaGIC a deunyddiau dysgu anghydamserol. Mae'r cymhwyster hefyd yn cynnig y cyfle ar gyfer addysgu a dysgu personol, gwaith grŵp, tiwtorialau unigol, a dysgu hunangyfeiriedig.

Asesiad

Defnyddir ystod o dystiolaeth i asesu cyflawniad dysgwyr yn erbyn meini prawf asesu, mae hyn yn cynnwys:

  • Ffotograffau Clinigol
  • Deunyddiau gweledol megis cyflwyniadau, taflenni a phosteri
  • Trafodaethau proffesiynol
  • Sylwadau
  • Llyfrau tystiolaeth ysgrifenedig
  • Darnau myfyriol
Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i unigolion fodloni'r gofynion mynediad:

  • Rhaid i ddysgwyr feddu ar Radd Anrhydedd mewn ffotograffiaeth neu bwnc perthnasol sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau, sy'n canolbwyntio ar ffotograffiaeth, neu o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol.
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio mewn adran ffotograffiaeth glinigol.

Fel rhan o'r broses ymgeisio bydd gofyn i ddysgwyr gyflwyno copi o'u tystysgrif gradd fel tystiolaeth o'u cymhwyster.

Sut i wneud cais

Fel cymhwyster dysgu seiliedig ar waith, bydd angen i unigolion wneud cais am swydd Ffotograffydd Clinigol dan Hyfforddiant yn un o adrannau darlunio meddygol Cymru. Mae'r swyddi hyn yn cael eu hysbysebu ar wefan swyddi'r GIG yn ystod misoedd y gwanwyn/dechrau'r haf, gyda derbyniad blynyddol yn dechrau bob mis Medi.

Dilyniant gyrfa

Mae dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarfer ffotograffiaeth glinigol i alluogi cyflogaeth yn y dyfodol fel ffotograffydd clinigol yn y GIG. Ar ôl cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus, mae dysgwyr yn gymwys i wneud cais am gofrestriad yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd (AHCS)  ac Aelodaeth Broffesiynol Sefydliad y Darlunwyr Meddygol (IMI).

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Amy Lake, Rheolwr Rhaglen Addysg Ffotograffiaeth Glinigol Amy.lake2@wales.nhs.uk