Mae'r cymhwyster yn cynnwys 11 uned orfodol, cyfanswm o 135 credyd. Bydd angen i ddysgwyr gyflawni'r holl gredydau ar gyfer pob uned i ennill y cymhwyster. Yr unedau yw:
Teitl yr uned |
Rhif Adnabod Uned Agored Cymru |
Ffotograffiaeth Glinigol yn y GIG |
CDP309 |
Hanfodion Ffotograffiaeth Glinigol |
CDP310 |
Caniatâd ar gyfer Ffotograffiaeth Glinigol |
CDP304 |
Llif Gwaith Ffotograffiaeth Glinigol |
CDP305 |
Hanfodion Anatomeg y Corff Dynol ar gyfer Ffotograffiaeth Glinigol |
CDP294 |
Cydnabod a Tynnu Llun o Gyflyrau Meddygol |
CDP292 |
Practis Ffotograffiaeth Glinigol sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn |
CDP291 |
Ffotograffiaeth Glinigol Gymhwysol: Technolegau a Thechnegau Delweddu |
CDP289 |
Dyletswydd Gofal mewn Ymarfer Ffotograffiaeth Glinigol |
CDP297 |
Ymholiad Beirniadol mewn Ffotograffiaeth Glinigol |
CDP301 |
Datblygiad Proffesiynol a Gwella Gwasanaeth mewn Ffotograffiaeth Glinigol |
CDP299 |
Bydd gweithio fel Ffotograffydd Clinigol dan Hyfforddiant mewn adran darlunio meddygol yn rhoi cyfle i'r dysgwyr gael hyfforddiant yn y swydd ac i'w cymwyseddau gael eu hasesu yn y lleoliad clinigol. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn profiadau dysgu ar-lein sy'n cynnwys sesiynau cydamserol gyda Thîm Addysg Ffotograffiaeth Glinigol AaGIC a deunyddiau dysgu anghydamserol. Mae'r cymhwyster hefyd yn cynnig y cyfle ar gyfer addysgu a dysgu personol, gwaith grŵp, tiwtorialau unigol, a dysgu hunangyfeiriedig.
Defnyddir ystod o dystiolaeth i asesu cyflawniad dysgwyr yn erbyn meini prawf asesu, mae hyn yn cynnwys:
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i unigolion fodloni'r gofynion mynediad:
Fel rhan o'r broses ymgeisio bydd gofyn i ddysgwyr gyflwyno copi o'u tystysgrif gradd fel tystiolaeth o'u cymhwyster.
Fel cymhwyster dysgu seiliedig ar waith, bydd angen i unigolion wneud cais am swydd Ffotograffydd Clinigol dan Hyfforddiant yn un o adrannau darlunio meddygol Cymru. Mae'r swyddi hyn yn cael eu hysbysebu ar wefan swyddi'r GIG yn ystod misoedd y gwanwyn/dechrau'r haf, gyda derbyniad blynyddol yn dechrau bob mis Medi.
Mae dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarfer ffotograffiaeth glinigol i alluogi cyflogaeth yn y dyfodol fel ffotograffydd clinigol yn y GIG. Ar ôl cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus, mae dysgwyr yn gymwys i wneud cais am gofrestriad yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd (AHCS) ac Aelodaeth Broffesiynol Sefydliad y Darlunwyr Meddygol (IMI).
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Amy Lake, Rheolwr Rhaglen Addysg Ffotograffiaeth Glinigol Amy.lake2@wales.nhs.uk