Mae cwrs Diploma Nyrsio Deintyddol NEBDN yn un o'r llwybrau y gallwch eu cymryd i ddod yn nyrs ddeintyddol.
Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn darparu diwrnod astudio wythnosol gyda ni yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), wrth weithio fel hyfforddai mewn practis deintyddol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â HEIW.DentalNurseTraining@wales.nhs.uk.
Mae ein tudalennau gyrfaoedd yn rhoi mwy o wybodaeth am nyrsio deintyddol fel gyrfa a sut i ddechrau eich gyrfa chi.
Mae gan Tregyrfa hefyd sawl blog gan nyrsys deintyddol am y proffesiwn.