Os ydych yn gwybod am unrhyw nyrsys deintyddol sydd naill ai wedi cymryd seibiant o’u gwaith neu wedi gadael y proffesiwn am unrhyw reswm ac yn dymuno dychwelyd i’r gweithlu deintyddol, gall AaGIC helpu gyda hyn.
Mae'n bosibl y bydd nyrsys deintyddol sy'n dychwelyd yn dymuno mabwysiadu trefniadau gweithio hyblyg wrth ail-ymuno â'r gweithlu er mwyn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith. Gallwn gynnig cymorth i ddatblygu cynllun gweithredu i alluogi dychweliad sicr, diogel a chynaliadwy i amgylchedd y gweithle. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio at gyrsiau a digwyddiadau hyfforddi hanfodol, canllawiau ar ddeddfwriaeth gyfredol sy’n effeithio ar gwmpas ymarfer, cyfleoedd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill a gwybodaeth am barhau â gyrfa fel gweithiwr deintyddol proffesiynol yng Nghymru drwy lwybr gyrfa strwythuredig y dyfodol.
A fyddech cystal â throsglwyddo'r wybodaeth hon i unrhyw un yn eich practis, gweithle neu gysylltiadau eich hun. Gallant gysylltu â ni yn heiw.dentalnursetraining@wales.nhs.uk